Efallai y bydd rhai o ddarllenwyr Golwg yn y gogledd yn cofio llais y cyflwynydd radio ar orsaf Champion 103 a Heart Môn a Gwynedd.

Bu’r ferch 39 oed o Gaernarfon yn cyfweld mawrion megis Take That a Boyzone yn nyddiau cynnar ei gyrfa.

A bellach mae hi i’w chlywed ar Radio Cymru yn cyflwyno a chynhyrchu’r sioe gwiz gerddorol Meistr y Miwsig gyda’i chariad, Dai Williams…

Ers pryd oeddech chi’n gwybod eich bod eisiau gweithio yn y byd radio?

Does yna ddim lot o bobol yn gwybod hyn ond ers oeddwn i’n tua saith oed ro’n i’n gwrando ar orsaf radio o’r enw Atlantic 252. Ro’n i’n gofyn wrth dad i recordio fi a smalio bo fi ar y radio. Mae o wedi bod yn rhywbeth dw i wedi bod eisiau gwneud ers pan oeddwn i’n fach.

Sut gawsoch chi eich swydd gyntaf ym myd radio?

Ro’n i’n rili lwcus achos pan es i i goleg, roedd yna orsaf radio leol yn y gogledd, Champion 103. Ges i gyfle anhygoel i fynd i weithio efo nhw drwy ddechrau gwneud ychydig bach o waith swyddfa a gwaith ar eu gwefan. Yn fuan iawn wnes i ddechrau dangos diddordeb mewn gwneud rhaglenni ac o fewn rhyw chwech mis ges i’r cyfle i wneud rhaglen fy hun ar ddiwrnod Dolig.

Dw i heb edrych yn ôl ers hynny. Wnes i benderfynu gadael coleg ac yn amlwg doedd mam a dad ddim yn rhy hapus am hynna ar y pryd. Ond ges i raglen chwaraeon fy hun ar ddyddiau Sadwrn a ro’n i’n cyflwyno ar fore Sul hefyd. Dw i heb edrych yn ôl ers hynny.

Cafodd yr orsaf yna ei chymryd drosodd gan Heart ac wedyn ges i’r cyfle anhygoel o gyflwyno rhaglen frecwast efo Kev [Bach, DJ adnabyddus yn y gogledd].

Sut brofiad oedd cael cyfweld mawrion yn y byd cerddoriaeth fel Boyzone, Duffy, Take That a Sophie Ellis Bextor?

Y cyfweliad cyntaf wnes i, coeliwch neu beidio, oedd efo’r Cheeky Girls. Doedden nhw ddim yn deall fi [yn siarad], a do’n i ddim yn deall nhw.

Dw i’n cofio cyfweld Boyzone hefyd a nhw’n gofyn i fi ddysgu Cymraeg iddyn nhw. Dw i jest yn cofio meddwl: ‘O mai gosh, dw i ar y sbot yn fan hyn a does gen i ddim syniad beth i’w ddysgu iddyn nhw’.

Roedden ni’n lwcus iawn efo Heart, ac yn cael profiadau gwych. Roedden ni’n cael teithio i Lundain yn aml, yn cael mynd i ffeinal pethau fel y rhaglen Big Brother ac ati. Roedd o’n rili cŵl.

O le ddaeth y syniad ar gyfer y cwiz pop?

Yn fy swydd i rŵan efo Radio Cymru, mae yna gyfle i gynnig syniadau yn flynyddol. Ro’n i’n teithio i’r gwaith un diwrnod a ro’n i’n meddwl bod hi’n amser i fi gynnig syniad, sef rhaglen gwiz gerddorol. Dydyn ni heb gael un o’r rheina ers dyddiau Cwis Pop.

Mae’r ail gyfres newydd gael ei darlledu a dw i’n cynhyrchu, a chyd-gyflwyno efo Dai Williams. Mae o’n gyffrous iawn ac mae o’n deimlad anhygoel pan maen nhw’n licio dy syniad ac yn mynd amdano fo.

Beth ydych fi’n ei fwynhau fwya’ am weithio yn y byd radio?

Yr amrywiaeth dw i’n mwynhau fwya’. Does yna ddim un diwrnod yr un peth. Mewn wythnos ti’n gallu bod yn ymchwilio, yn cynhyrchu ac yn cyflwyno. Ac mae’r cariad sydd gen i at radio yn anferth.

Dwyt ti ddim yn sylwi weithiau faint o bobol allan yna sy’n gwrando ac yn dibynnu arnat ti. Dw i’n licio siarad efo’r gwrandawyr ac uniaethu efo nhw, ac mae o’n lyfli wedyn pan maen nhw’n estyn allan a dweud bo chdi wedi helpu nhw mewn rhyw ffordd, neu bo chdi’n gwmni neu’n gysur iddyn nhw mewn amser caled. Mae hynny’n wobr yn ei hun.

Beth yw eich atgof cynta’?

Dw i’n cofio coginio efo dad – roedd dad yn dda iawn am goginio – a ro’n i’n cael mynd mewn i’r gegin ac roedd o’n symud cadair o’r bwrdd fel bo fi’n gallu cyrraedd y cownter i helpu fo. Dw i’n mwynhau coginio a dw i’n meddwl bod hynna’n dod o pan o’n i’n ifanc iawn yn helpu dad.

Beth yw eich ofn mwya’?

Llygod neu lygod mawr.

Ar wahân i hynny, un o fy ofnau mwyaf ydi bod unrhyw niwed yn dod i fy mhlant i, sef Ella sy’n 11 oed, ac Erin sy’n saith.

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Dw i’n un o’r rheiny sy’n neidio ar y bandwagon… Os dw i’n gweld rhywbeth fel deal i fynd i’r gym, wna i ymaelodi a wna i fynd unwaith a byth eto.

Ond y peth dw i’n mwynhau fwyaf ac sy’n helpu fi’n feddyliol fwyaf ydi cerdded. Fedra i ddim aros tan mae’r tywydd yn gwella i gael mynd gyda’r nos ar ôl gwaith am ryw awr o walk bach o gwmpas Caernarfon.

Beth sy’n eich gwylltio?

Influencers ar Instagram. Maen nhw’n rhoi cyngor i chdi am bethau dydyn nhw ddim yn gwybod am, ac mae hynna’n gwylltio fi. Dw i’n teimlo bod hynna’n gallu bod yn beryg weithiau i’r bobol sy’n dioddef efo iechyd meddwl, a bod nhw’n cymryd cyngor gan yr influencers. Mae o’n grêt eu bod nhw’n trio helpu ond maen nhw’n dweud pethau weithiau a ti’n meddwl: ‘Waw!’

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Jordan Henderson o dîm pêl-droed Lerpwl, Jürgen Klopp, Simon Cowell, a well i fi ddweud fy nghariad, Dai.

Speciality fi ydi Cinio Dydd Sul traddodiadol felly fyswn i’n coginio fy hun, ond mae’n rhaid iddyn nhw ddod â’r prosecco neu’r siampên – ddaw nhw â’r stwff drud!

Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?

Fy nghariad, Dai. Rydan ni’n gweithio efo ein gilydd, felly mae hwnna’n sgandal i chi!

Mae Dai yn gweithio i raglen Ifan Jones Evans ar BBC Radio Cymru a wnaethon ni weithio’n agos iawn ar Meistr y Miwsig a daethon ni’n ffrindiau da. Ond yn ddiweddar iawn daethon ni at ein gilydd.

Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?

It is what it is.

Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?

Mae yna rywbeth yn digwydd bob dydd ond yr un sy’n sefyll allan ydi pan ro’n i’n gweithio i orsaf radio masnachol. Roedd fy rheolwr ar y pryd wedi gwylltio fi dros e-bost a wnes i fynd i basio’r e-bost ymlaen i’n ffrind ro’n i’n gweithio efo yn diawlio’r rheolwr… Ond wnes i yrru fo i’r rheolwr yn lle’r ffrind. Os fysa’r llawr wedi agor, fyswn i wedi mynd syth drwyddo fo. Dw i erioed wedi teimlo mor sâl yn fy mywyd!

Chwarae teg, wnaeth o gymryd o’n dda iawn a dweud bod o’n rhywbeth roedd o wedi gwneud ei hun. Dw i erioed wedi gwneud dim byd fel yna wedyn. Dw i’n triple checio pwy dw i’n gyrru e-bost i rŵan. Ond y wers yn hynna ydi – paid â gyrru e-byst yn dweud pethau cas am bobol!

Gwyliau gorau i chi fwynhau?

Es i Amsterdam ym mis Chwefror a doeddwn i erioed wedi bod o’r blaen, ond roedd o’n rhywle ro’n i wedi bod eisiau mynd. Waw! Roedd o’n brofiad ac agoriad llygaid. Cwmni da a lot, lot o hwyl. Alla i ddim aros i fynd yn ôl.

Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?

Chwyrnu Dai!

Dw i hefyd yn ofnadwy am roi Netflix ymlaen gyda’r nos a wna i wylio pethau fel Suits neu Friends, a fydda i dal yn eistedd yn gwylio nhw am tua phedwar o’r gloch yn y bore. Does yna ddim angen. Dw i wedi gweld y cyfresi yma drosodd a throsodd ond dw i’n dal i aros fyny’n gwylio nhw.

Hoff ddiod feddwol?

Gan bo fi’n un sy’n licio mynd i wylio’r pêl-droed yn Anfield, dw i’n licio peint o Heineken.

Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?

Ga i ddweud Fifty Shades of Grey?

Dw i yn licio darllen hunangofiannau hefyd ac un o’r rhai gorau dw i wedi darllen ydi un Dannii Minogue. Mae hi mor onest ynddo fo.

Hoff air?

Awê.

Hoff albwm?

This Is My Truth Tell Me Yours gan Manic Street Preachers.

Rhannwch gyfrinach efo ni?

Does yna ddim llawer o bobol yn gwybod hyn ond dw i’n dioddef o OCD (Obsessive-compulsive disorder).

OCD fi ydi bod pob darn o’r tŷ yn gorfod bod yn lân cyn mynd i’r gwely. Alla i ddim gadael cwpan na dim allan. Mae’n rhaid i bob dim fod yn ei le neu wna i ddim cysgu.

Pan dw i’n gadael y tŷ dw i’n gorfod gwneud yn saff bod pob drws ar gau dair gwaith, ac os dydw i heb wneud o dair gwaith dw i’n gorfod troi yn ôl. Mae o’n hunllef pan ti ar frys i fynd i rywle!

Mae’r gyfres ‘Meistr y Miwsig’ ar gael i wrando arni ar BBC Sounds