Mae tîm pêl-droed dynion dinas Wrecsam wedi cael afalansh o sylw ers iddyn nhw ennill y gynghrair. Ac iawn yw hynny. Ond mae tîm y merched wedi bod yn profi llwyddiant anhygoel hefyd, fel yr eglura Meilyr Emrys…

O’r diwedd, mae aros arteithiol cefnogwyr tîm dynion Wrecsam wedi dod i ben. Wedi pymtheg mlynedd hirfaith yn anialdir pumed haen pyramid pêl-droed Lloegr, bydd gwŷr y Cae Ras yn chwarae yn Adran Dau unwaith eto tymor nesaf. Drwy drechu Boreham Wood o dair gôl i un dros y penwythnos, cadarnhaodd y Dreigiau Cochion mai hwy fydd pencampwyr Cynghrair Genedlaethol Lloegr ar gyfer 2022-23 a darparwyd y diweddglo perffaith ar gyfer ail gyfres Welcome to Wrexham. Ond nid tîm y dynion yn unig sydd wedi profi llwyddiant y tymor hwn. Yn wir, yn gynharach yn y mis – tra’r oedd cefnogwyr o’r Hôb i Hollywood yn dal i groesi eu bysedd am derfyn gorfoleddus i ymgyrch ddiweddaraf carfan Phil Parkinson – achubodd tîm Merched Wrecsam y blaen ar eu cyfoedion gwrywaidd, drwy sicrhau eu dyrchafiad eu hunain.

Chwe diwrnod cyn i goliau Elliot Lee a Paul Mullin sbarduno’r dathliadau buddugoliaethus a welwyd ar y Cae Ras nos Sadwrn, seliodd Merched Wrecsam eu lle ym Mhrif Adran Cynghrair Genero ar gyfer tymor nesaf, drwy drechu Llansawel (pencampwyr ail haen y de) mewn gornest glos yn y Drenewydd. Ger torf o bron i 2,000 ar Barc Latham, Rebecca Pritchard sgoriodd unig gôl y gêm, cyn i’r gôl-geidwad, Delyth Morgan, wneud cyfres o arbediadau tyngedfennol i lesteirio ymdrechion cynyddol gynddeiriog y gwrthwynebwyr o ardal Castell Nedd, yn ystod munudau olaf yr ail hanner.

A hwythau eisoes wedi cwblhau ymgyrch berffaith yn Adran y Gogledd – drwy ennill pob un o’u deuddeg gêm gynghrair yn ystod 2022-23 – roedd y llwyddiant diweddaraf hwn yn goron ar dymor rhagorol i dîm Steve Dale. Ond nid cefnogwyr Wrecsam yn unig sydd wedi bod yn llawenhau yn dilyn yr ornest ryng-ranbarthol ddiweddar yn y Drenewydd, oherwydd roedd y gêm honno hefyd yn benllanw ar fis arwyddocaol i bêl-droed merched yng Nghymru, yn fwy cyffredinol.

Wedi i dîm cenedlaethol y menywod ddod o fewn trwch blewyn i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf y llynedd – gan ddenu torfeydd o faint na welwyd eu tebyg o’r blaen i’w gemau rhagbrofol yn erbyn Slofenia (12,741) a Bosnia-Herzegovina (15,200) yn Stadiwm Dinas Caerdydd – mae’n amlwg bod y diddordeb cynyddol mewn pêl-droed merched bellach yn cwmpasu’r gêm ddomestig hefyd, oherwydd gwyliodd dros 15,000 o bobl we-ddarllediad byw (a dwyieithog) Sgorio o’r ymryson rhwng Wrecsam a Llansawel ar YouTube.

Ryan a Rob – a’r dorf fwyaf erioed – yn gwylio’r merched

Ychydig benwythnosau ynghynt, roedd y camerâu teledu yn bresennol ar gyfer gêm flaenorol Merched Wrecsam hefyd. Gyda’r Cochion eisoes wedi cipio pencampwriaeth yr ail haen ogleddol – drwy chwalu’r Rhyl o 11 gôl i un ar 5 Mawrth – cafwyd cyfle i ddathlu’r llwyddiant cychwynnol hwnnw, drwy gynnal gêm gynghrair ddiwethaf y tymor ar y Cae Ras. Yn dilyn ymgyrch farchnata effeithiol gan y clwb, heidiodd 9,511 o bobl – gan gynnwys Ryan Reynolds a Rob McElhenney – i’r hen stadiwm ar Ffordd yr Wyddgrug ar brynhawn Sul olaf mis Mawrth, i wylio’r tîm cartref yn cael y gorau ar Gei Connah, sef y tîm orffennodd yn ail yn Adran y Gogledd eleni. Dechreuodd T J Dickens y parti ar ôl dim ond chwe munud, drwy roi Wrecsam ar y blaen gyda chic rydd ardderchog o dros ddeg llath ar hugain. Ond wedi i’r ymwelwyr daro nôl yn syth, bu’n rhaid i’r dorf fwyaf erioed ar gyfer gêm ddomestig rhwng timau merched yng Nghymru ddisgwyl yn hir am y gôl wnaeth sicrhau’r fuddugoliaeth i’r tîm cartref: wyth munud yn unig oedd ar ôl pan dorrodd Rosie Hughes yn rhydd a sgorio o flaen y môr o wynebau llawen yn Eisteddle WrexRent. Yn drawiadol, dim ond ychydig dros 600 yn fwy o gefnogwyr oedd wedi bod yn y Cae Ras y prynhawn blaenorol, pan lwyddodd Sam Dalby ac Elliot Lee i ganfod yr un rhwyd, wrth i dîm dynion Wrecsam sicrhau buddugoliaeth hollbwysig yn erbyn Efrog.

Punt yn unig oedd pris tocyn ar gyfer y gêm rhwng merched Wrecsam a Chei Connah ac ni ellir gwadu bod y fargen honno – ynghyd â’r cyfle i weld Ryan a Rob yn y cnawd – wedi cyfrannu at faint eithriadol y dorf ar 26 Mawrth. Ond nid yw hynny’n gwanhau arwyddocâd y digwyddiad, na chwaith yn awgrymu mai datblygiad artiffisial, neu fyrhoedlog, yw’r twf diweddar ym mhoblogrwydd pêl-droed benywaidd yng Nghymru. Wedi’r cyfan, er mai’r stadiwm athletau fechan ar y Campws Chwaraeon Rhyngwladol yn Lecwydd yw eu cartref arferol, mae tîm Merched Caerdydd wedi bod yn chwarae o leiaf un gêm y tymor yn y stadiwm llawer mwy sylweddol, sydd dafliad carreg i ffwrdd – ar ochr arall y B4267 – ers 2020-21.

Caniataodd y drefn hon i dorf o 5,175 wylio’r Adar Gleision yn trechu’r Fenni o naw gôl i ddim fis Tachwedd diwethaf, wrth i fenywod y brifddinas garlamu tuag at bencampwriaeth Prif Adran Cynghrair Cymru am y tro cyntaf ers degawd. Abertawe a Met Caerdydd orffennodd yn ail a thrydydd yn yr Adran Premier eleni – flwyddyn ar ôl iddynt orffen yn gyntaf ac ail – ac adlewyrchwyd eu statws fel dau o geffylau blaen gêm ddomestig y merched, pan ddenwyd 1,426 o bobl i’w gwylio yn ymryson yn Stadiwm Swansea.com yn ôl ym mis Medi. Ar y pryd, y dorf honno oedd y fwyaf yn hanes y gynghrair. Roedd y gynulleidfa welodd Kim Dutton (capten Wrecsam) yn codi tlws Adran y Gogledd ar y Cae Ras fis diwethaf bron i saith gwaith yn fwy.

Heb gyd-destun ehangach, mae’r gymhariaeth uniongyrchol hon rhwng dwy o gemau mwyaf blaenllaw tymor 2022-23 yn awgrymu bod poblogrwydd pêl-droed merched yng Nghymru wedi tyfu ar raddfa sydd bron yn annirnadwy yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf. Ond mewn gwirionedd – yn union fel yn achos gêm y dynion – mae torfeydd o dros fil mewn gornestau domestig yn parhau i fod yn ffenomen eithriadol o anarferol. Ar faes Clwb Pêl-droed Rhos Aelwyd, yn Rhosllannerchrugog, mae tîm Merched Wrecsam yn chwarae’r mwyafrif o’u gemau cartref ac ychydig gannoedd, ar y mwyaf, sy’n dueddol o’u gwylio yno. Yn wir, cyfeiriodd gwefan swyddogol y clwb at y cynulliad o 300 – gan gynnwys Rob McElhenney – oedd ym mharc Ponciau Banks ar gyfer ymweliad Llandudno, fis Hydref diwethaf, fel ‘torf helaeth iawn’. Yn fwy dadlennol, ddeufis cyn iddynt ddod ben-ben â’i gilydd ar y prynhawn arbennig hwnnw yn y Cae Ras, ar gae chwarae Ysgol y Grango (hefyd yn Rhosllannerchrugog) y cynhaliwyd yr ornest flaenorol rhwng timau benywaidd Wrecsam a Chei Connah.

Gossip Girl yn cefnogi’r merched

Ond er felly nad yw’r twf diweddar mor ddramatig a holl gynhwysfawr ag y mae’n ymddangos ar yr olwg gyntaf, ni ellir gwadu bod 2022-23 wedi bod yn dymor eithriadol o gyffrous a phwysig o ran datblygiad pêl-droed merched yng Nghymru. Adlewyrchwyd hynny wrth i 515 o bobl wylio Caerdydd yn cipio’r dwbl domestig, drwy drechu Llansawel ym Mharc Penydarren, Merthyr, brynhawn Sul diwethaf. Yn amlwg, mae maint y cynulliad hwnnw yn ymddangos yn eithriadol o dila, o’i gymharu â’r dorf anferthol fynychodd y parti diweddar yn Wrecsam. Ond mewn gwirionedd, roedd swm y cefnogwyr fynychodd rownd derfynol Cwpan Menywod Cymru eleni yn fwy na thorfeydd cyfartalog pob un o ddeuddeg clwb (gwrywaidd) y Cymru Premier ar gyfer y tymor sydd newydd ddod i ben. Efallai felly na fydd gemau merched yn Stadiwm Dinas Caerdydd, Stadiwm Swansea.com neu’r Cae Ras yn ddigwyddiadau mor hynod ac anarferol yn y dyfodol.

Ochr yn ochr â Ryan a Rob, mae gan dîm merched Wrecsam noddwr byd-enwog arall, sef yr actores, Blake Lively ac fel ei gŵr (Ryan Reynolds), roedd seren Gossip Girl hefyd yn y ‘crachflwch’ – ar frig Eisteddle Ffordd yr Wyddgrug – ar gyfer y gêm ddiweddar yn erbyn Cei Connah. Ond fel y gwelodd pawb oedd yn bresennol y diwrnod hwnnw, Rosie Hughes yw’r brif seren ar y cae. Llwyddodd hi i ganfod y rhwyd ym mhob gêm gynghrair chwaraeodd hi yn ystod 2022-23 a dim ond mewn dwy o’r gornestau hynny (y rhai yn erbyn Cei Connah) fethodd hi sgorio fwy nac unwaith. Yn naturiol felly, hi oedd prif sgoriwr Adran y Gogledd a gorffennodd y tymor gyda 41 gôl ym mhob cystadleuaeth. Er bod hynny bum gôl yn brin o gyfanswm toreithiog Paul Mullin ar gyfer yr un cyfnod, mae’n werth nodi bod rhif 10 tîm dynion Wrecsam wedi chwarae hanner cant o gemau ers mis Awst diwethaf. Dim ond ar ddeunaw achlysur gamodd Rosie Hughes i’r maes yn ystod ymgyrch ddiweddaraf tîm y merched.

Gyda’r amcan cychwynnol – sef sicrhau bod tîm y dynion yn esgyn yn ôl i Adran Dau – bellach wedi ei gyflawni a’r perchnogion yn parhau i ailadrodd, dro ar ôl tro, bod ganddynt weledigaeth hirdymor ar gyfer y clwb, mae dilynwyr Wrecsam eisoes wedi dechrau breuddwydio am lwyddiannau pellach. Yn anochel, darparu cyllid i alluogi Phil Parkinson i gryfhau ei garfan fydd y brif flaenoriaeth dros fisoedd yr haf. Ond y tu hwnt i hynny, mae’n amlwg bod cynlluniau uchelgeisiol Ryan a Rob hefyd yn cwmpasu dyfodol tîm y merched.

Yn wir, mae’r clwb eisoes wedi cadarnhau y bydd chwaraewyr benywaidd Wrecsam yn lled-broffesiynol am y tro cyntaf y tymor nesaf a gan y byddant yn chwarae mewn cynghrair fydd, fel arall, yn hollol amatur, mae’n amlwg mai’r bwriad yw mynd ati, o’r dechrau, i gystadlu tua brig Adran Premier Genero. Mae stori ryfeddol Clwb Pêl-droed Wrecsam yn parhau felly ac mae’r cynnwrf, y llwyddiant a’r breuddwydio am oes aur newydd ar y Cae Ras yn ymestyn y tu hwnt i ddim ond tîm y dynion.