Aeth saith mlynedd heibio ers i’r Cymry a mwyafrif o bobloedd gwledydd Prydain bleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ac ar ôl LOT FAWR o rwdlan gwleidyddol fe gafwyd y Brexit ym mis Ionawr 2020… ac ers hynny mae dwy brif blaid San Steffan wedi gwneud eu gorau glas i sgubo’r holl saga dan y ciarpad.