Mae Vaughan Gething, Gweinidog Economi Cymru, wedi crosawu Model Gweithredu Targed y Ffin “sy’n gweithio i Gymru”.
Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn oedi am dri mis cyn cyflwyno rheoliadau mewnforio ôl-Brexit llawn ar nwyddau o’r Undeb Ewropeaidd.
Mae hyn yn golygu mai mis Ionawr y flwyddyn nesaf fydd y dyddiad cychwyn.
Gadawodd y Deyrnas Unedig y farchnad sengl ym mis Ionawr 2021, ac maen nhw wedi oedi cyn cyflwyno rheoliadau ffin llawn sawl gwaith o ganlyniad i bryderon am anghyfleustra yn y porthladdoedd a’r perygl o waethygu’r argyfwng costau byw.
Ond daeth rheoliadau i rym ar unwaith ym Mrwsel ar gyfer gwiriadau a gwaith papur nwyddau’n teithio o’r Deyrnas Unedig i’r Undeb Ewropeaidd, gan arwain at oedi a chostau uwch, ac amodau cystadlu heriol i fusnesau.
Dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ym mis Ebrill y byddai angen tystysgrifau iechyd ar rai cynnyrch anifeiliaid, planhigion a bwyd a nwyddau porthi anifeiliaid o Ewrop erbyn Hydref 31.
Mae disgwyl cyflwyno gofynion pellach trwy gydol 2024, ac mae’r dyddiad ar gyfer rhai o’r rhain yn cael ei ymestyn gan dri mis er mwyn rhoi rhagor o amser i fusnesau baratoi.
Bydd y model hefyd yn gwneud defnydd gwell o ddata a thechnoleg ac yn dileu cyplysu, gan leihau faint o ddata a gwaith papur sydd ei angen gan fusnesau wrth fewnforio nwyddau, gan arbed rhyw £520m y flwyddyn o gymharu â’r model gwreiddiol oedd i fod i ddod i rym y llynedd.
Yn rhan o’r cynllun hefyd mae ‘Ffenest Fasnachu Sengl’ er mwyn symleiddio a mireinio prosesau mewnforio ac allforio fel mai dim ond unwaith fydd angen i fasnachwyr gyflwyno gwybodaeth.
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Rwy’n falch ei fod wedi cael ei gyhoeddi o’r diwedd,” meddai Vaughan Gething, wrth ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Mae Llywodraeth Cymru, gan weithredu ar gyngor gan y Prif Swyddog Milfeddygol, y Prif Swyddog Iechyd Planhigion a’r Asiantaeth Safonau Bwyd, wedi cytuno ar y fframwaith a amlinellir ym Model Gweithredu Targed y Ffin.
“Mae’r fframwaith hwn wedi cael ei ddatblygu dros nifer o fisoedd o gydweithio rhwng Llywodraethau Cymru, yr Alban a’r Deyrnas Unedig.
“Mae manteision cyfundrefn fasnachu gydlynol ar draws Prydain Fawr yn amlwg, nid yn unig er budd ein bioddiogelwch ar y cyd ond hefyd o ran osgoi cymhlethdodau diangen i fasnachwyr.
“O ganlyniad i’n cyfranogiad, rydym wedi sicrhau model sy’n gweithio i Gymru.
“Bydd y rheolaethau newydd yn cael eu cyflwyno’n raddol, gyda’r rheolaethau iechyd a ffytoiechydol yn dod i rym ym mis Ionawr 2024, yn hytrach nag ym mis Hydref 2023 fel a nodwyd ym Model Gweithredu Targed y Ffin a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2023.
“Nid oedd dewis gennym ond derbyn yr oedi hwn, ond mae’n bwysig nad oes unrhyw oedi pellach.
“Yn ogystal â’r gofyniad am ardystiad iechyd a ffytoiechydol ar gyfer allforion, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno gofyniad i raghysbysu ynghylch rhai categorïau ychwanegol o nwyddau iechydol a ffytoiechydol sy’n cael eu mewnforio o Weriniaeth Iwerddon ym mis Ionawr 2024.
“Mae’r gofyniad hwn eisoes wedi bod ar waith ar gyfer mewnforion tebyg o’r Undeb Ewropeaidd sy’n cyrraedd mannau eraill ym Mhrydain Fawr ers mis Ionawr 2022.
“Nid oedd Model Gweithredu Targed y Ffin drafft yn cynnig dyddiad ar gyfer cyflwyno gwiriadau ffisegol ar fewnforion nwyddau o Iwerddon.
“Mae Model Gweithredu Targed y Ffin yn cadarnhau na fydd yn gynharach na 31 Hydref 2024.
“Byddaf yn gwneud cyhoeddiad arall cyn gynted ag y bo modd, pan fydd y tair Llywodraeth wedi cael y cyfle i gytuno ar ddyddiad ar gyfer dechrau gwiriadau ffisegol yn ein porthladdoedd ar arfordir y gorllewin.
“Hoffwn i weld o leiaf blwyddyn o rybudd ar gyfer y busnesau yr effeithir arnynt.
“Bydd hyn hefyd yn caniatáu i’r awdurdodau lleol perthnasol yng ngogledd a gorllewin Cymru, sy’n gyfrifol am borthladdoedd Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro, gynllunio a recriwtio mewn modd priodol.
“Yn y cyfamser, byddwn ni’n parhau i weithio’n agos gyda nhw a’r porthladdoedd wrth i’r rheoliadau newydd hyn a’u cyfleusterau ategol gael eu rhoi ar waith.”