Bydd bandstand Aberystwyth yn arddangos y casgliad ffotograffig cyntaf yn y byd yn archwilio sut mae profiadau bywyd pobol yn effeithio ar eu hagweddau at annibyniaeth yng Nghatalwnia, Cymru, a’r Alban.

Mae’r arddangosfa dros dro, ‘Pen Rheswm/Gwrando’r Galon: Darlunio Dyfodol Cymru’, ar agor i’r cyhoedd rhwng 10yb a 5yp dros y tridiau nesaf (Ebrill 13-15), ac mae’n rhan o astudiaeth dan arweiniad academyddion o Aberystwyth.

Mae’r ymchwil yn nodi newid sylfaenol yn y modd o astudio annibyniaeth hyd yn hyn.

Arweinwyr y prosiect yw Dr Anwen Elias a Dr Elin Royles o Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru Prifysgol Aberystwyth, ac maen nhw’n defnyddio ffotograffiaeth i gael dealltwriaeth well o agweddau a theimladau pobol am annibyniaeth yn y tair gwlad.

Mae’r arddangosfa gyntaf yn Aberystwyth, gydag arddangosfeydd o’r casgliad hefyd ar y gweill yn Barcelona a Chaeredin.

‘Cloddio’n ddyfnach’

“Rydym yn gweithio yng Nghymru, Catalwnia a’r Alban i ddatblygu dull newydd sbon o ymchwilio i ‘Annibyniaeth’,” meddai Dr Elin Royles.

“Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith ymchwil blaenorol wedi canolbwyntio’n gyfan gwbl ar ymatebion i arolygon ac i ddemograffeg, megis oedran, rhyw, dosbarth cymdeithasol ac incwm, ond rydyn ni’n cloddio’n ddyfnach ac â diddordeb mewn dysgu sut y gallwn esbonio ffordd mae pobol yn meddwl ac yn teimlo am ddyfodol cyfansoddiadol eu gwledydd.

“Ni yw’r cyntaf yn y byd i ddefnyddio’r ddull yma a dylai ychwanegu lliw a chysgod at yr hyn sy’n hysbys hyd yma am farn pobol mewn perthynas ag annibyniaeth.

“Yn bwysicaf oll, gall arwain at drafodaeth fwy cynnil, yn enwedig yng Nghatalwnia a’r Alban, lle mae’r dadlau’n ddwys ac wedi’i begynnu ymhlith pleidiau gwleidyddol a’r cyfryngau.”

‘Dealltwriaeth ddyfnach yn bwysig i ddemocratiaeth Cymru’

Bydd yr arddangosfa yn cael ei lansio’n ffurfiol nos Iau (Ebrill 13) gan Elin Jones, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Geredigion a Llywydd y Senedd.

“O gofio’r ddadl sy’n digwydd yng Nghymru, Lloegr a’r Alban am ddyfodol cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, rwy’n croesawu’r ymchwil yma sydd dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth,” meddai.

“Gan roi safbwyntiau gwahanol y pleidiau gwleidyddol i’r neilltu, mae datblygu dealltwriaeth ddyfnach o farn pobol ar annibyniaeth yn bwysig i ddemocratiaeth Cymru.”

Annog clybiau a dosbarthiadau i gymryd rhan

Mae Neil McGuff, cadeirydd Clwb Camera Aberystwyth, sydd yn arddangos ei ffotograffau yn y casgliad cyntaf, am annog clybiau a dosbarthiadau ffotograffiaeth eraill i gymryd rhan.

“Fe wnes i ac aelodau eraill o’r clwb ffotograffiaeth fwynhau cymryd rhan yn yr ymchwil yma’n fawr iawn,” meddai.

“Drwy ddefnyddio ein creadigrwydd i archwilio’r syniad o annibyniaeth at sgyrsiau hynod ddiddorol ymhlith y grŵp, fe wnaeth agor fy llygaid i’r ffordd y gall pob un ohonom fynd i’r afael â phwnc sy’n rhannu.

“Byddwn yn argymell unrhyw glwb neu ddosbarth ffotograffiaeth i gymryd rhan gan ei fod yn cynnig cyfle gwych i ddilyn eich creadigrwydd ac i arddangos eich ffotograffiaeth, o bosib, mewn lleoliad fel Barcelona.”

Caiff y prosiect ei ariannu gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) fel rhan o’r rhaglen WISERD (Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru).