Mae cynghorydd yn Sir Benfro wedi tynnu’n ôl o’r grŵp Ceidwadol tros honiadau ei fod e wedi gwneud sylwadau hiliol.
Daw hyn yn dilyn galwadau’r grŵp Llafur ar i’r Cynghorydd Andrew Edwards gael ei wahardd dros dro, wedi iddo gyfeirio’i hun at yr Ombwdsmon.
Yn ôl adroddiadau, dywedodd y dylai pob dyn gwyn gael caethwas du.
Daw hyn yn dilyn galwadau ar iddo gael ei wahardd dros dro tra bod ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal i’r sylwadau.
Mae Andrew Edwards, cynghorydd sir dros ward Prendergast yn Hwlffordd, wedi’i gyhuddo o wneud y sylw mewn recordiad, gafodd ei anfon wedyn at swyddog monitro Cyngor Sir Penfro.
Yn ôl y sôn, cafodd Andrew Edwards, sydd hefyd yn ynad ac yn llywodraethwr ysgol, ei adnabod gan ei lais wrth ddweud nad oes “dim byd o’i le ar liw’r croen o gwbl”, a’i fod yn “credu y dylai pob dyn gwyn gael dyn du fel caethwas, neu fenyw ddu fel caethwas”.
“Does dim byd o’i le â lliw croen, dim ond eu bod nhw’n ddosbarth is na ni’r bobol wyn, wyddoch chi,” meddai, yn ôl adroddiadau.
Dydy cyd-destun y recordiad ei hun ddim yn hysbys eto.
Hunangyfeirio at yr Ombwdsmon
Doedd Andrew Edwards, ddaeth yn gynghorydd ar ôl etholiadau’r llynedd, ddim wedi cadarnhau na gwadu’r honiad pan gafodd ei holi am ymateb gan y Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol.
Yn lle hynny, cadarnhaodd ddatganiad ysgrifenedig oedd eisoes wedi’i gyhoeddi, oedd yn dweud ei fod yn “ymwybodol o honiadau mor ddifrifol sy’n cael eu gwneud yn fy erbyn”.
“Dyma pam rydw i wedi hunangyfeirio at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus am werthusiad annibynnol,” meddai.
Mae bellach yn nwylo arbenigwyr cyfreithiol a’r Ombwdsmon,” meddai’r cynghorydd sy’n driniwr gwallt hunangyflogedig, yn drwyddedai tafarn a bwyty yn Abertawe ac yn Saer Rhydd.
“Byddai’n annheg ar y broses i mi wneud sylw nawr.”
‘Safbwyntiau gwarthus’
“Mae’r safbwyntiau sydd wedi’u cynnwys yn y recordiad hwn yn warthus,” meddai llefarydd ar ran y grŵp Llafur.
“Bydd pobol yn Sir Benfro, ac yn arbennig yn ward Prendergast yn Hwlffordd, yn cael eu syfrdanu gan y sylwadau yr honnir i’r Cynghorydd Edwards eu gwneud.
“Does dim lle o gwbl i hiliaeth yn ein cymdeithas, heb sôn am mewn barn gafodd ei mynegi gan aelod etholedig ar Gyngor Sir Penfro.
“Rydym yn croesawu cyfeirio’r mater at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, ond nid mater i’r Ombwdsmon yn unig yw hwn.
“Rhaid i’r Grŵp Ceidwadol weithredu ar unwaith ac atal y Cynghorydd Edwards dros dro tra bod unrhyw ymchwiliad yn cael ei gynnal.”
Daw eu sylwadau cyn y newyddion bod y Cynghorydd Edwards wedi tynnu’n ôl o’r grŵp Ceidwadol ar y Cyngor.
Mae Cofrestr Buddiannau Aelodau Cyngor Sir Penfro yn nodi, ymhlith pethau eraill, fod y Cynghorydd Andrew Edwards yn Saer Rhydd, ac yn llywodraethwr Ysgol Gynradd Prendergast.
Mae grŵp y Ceidwadwyr ar Gyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Penfro wedi cael cais am sylwadau.
Mae disgwyl y bydd unrhyw benderfyniad ar ymchwiliad ffurfiol gan yr Ombwdsmon yn cymryd sawl wythnos, gyda’r mater naill ai’n cael ei gyfeirio at bwyllgor safonau’r Cyngor Sir ei hun neu at Banel Dyfarnu Cymru.