Mae deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi rasio milgwn wedi denu dros 10,000 o lofnodion.
Valley Greyhounds yn Ystrad Mynach yw’r unig drac rasio milgwn yng Nghymru, ac mae wedi bod ynghanol ffrae yn ddiweddar ynghylch dyfodol y gamp.
Cafodd y ddeiseb ei chyflwyno gan David Tams, mab Malcolm Tams sy’n rhedeg y stadiwm.
Maen nhw’n dweud mai nod y ddeiseb yw dangos poblogrwydd y gamp.
Daw deiseb Valley Greyhounds yn dilyn cynigion i gyflwyno gwaharddiad bob yn dipyn ar rasio milgwn yng Nghymru.
Ond mae dros 10,000 o bobol wedi llofnodi’r ddeiseb yn cefnogi rasio milgwn erbyn hyn.
“Rydyn ni’n falch o weld y fath ymateb cyflym gan bobol wrth lofnodi’r ddeiseb, ac rydym yn diolch iddyn nhw am ein cefnogi ni i gyrraedd ein targed,” meddai Malcolm Tams, sy’n 67 oed ac sydd wedi rhedeg y stadiwm ers 2008.
“Dyma’r hwb oedd ei angen arnom i gyflwyno’r ddadl gref o blaid rasio a herio’r rhethreg rydyn ni’n ei chlywed.
“Gofynnwn y cawn ni gydnabyddiaeth deg a chyfartal i’n hymgyrch, ac i boblogrwydd a rôl hanesyddol rasio milgwn yng Nghymru.
“Cawson ni gefnogaeth i lofnodi ein deiseb gan y gymuned rasio ceffylau ac eraill sy’n frwd dros anifeiliaid y campau sy’n poeni am ddylanwad agenda hawliau anifeiliaid sy’n bygwth gwahardd anifeiliaid y campau a rhai gweithiol, ffermio a physgodfeydd, a hyd yn oed a ydyn ni’n cael cadw anifeiliaid anwes.
“Mae’n risg sylweddol i’r holl weithgareddau’n ymwneud ag anifeiliaid ac yn golygu bod agenda eithriadol fyddai’n dileu bywoliaethau, diddordebau a hobïau sy’n rhan greiddiol o gymunedau Cymreig.”
Deisebau blaenorol
Dywed gwefan y Senedd fod y Pwyllgor Deisebau’n ystyried pob deiseb sy’n denu dros 10,000 o lofnodion ar gyfer dadl.
Gall deisebau ddenu llofnodion am hyd at uchafswm o chwe mis.
Daw hyn yn dilyn deiseb flaenorol gan yr elusen cŵn Hope Rescue, yn galw am wahardd rasio milgwn, oedd wedi denu 35,101 o lofnodion.
Cafodd ei thrafod gan bwyllgor deisebau’r Senedd, ac fe fydd argymhelliad y pwyllgor o gyflwyno gwaharddiad fesul dipyn yn mynd allan ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus eleni.
Yn ogystal, mae’r ymgyrch #CutTheChase wedi gweld Hope Rescue, yr Ymddiriedolaeth Cŵn, Blue Cross, yr RSPCA a Greyhound Rescue Cymru’n ymuno i alw am ddod â rasio milgwn i ben yng Nghymru.
Cyhuddiadau yn erbyn Hope Rescue
Mae Hope Rescue yn honni iddyn nhw dderbyn 200 o gŵn oedd wedi’u hanafu ac yn gysylltiedig â thrac Valley Greyhounds yn ystod eu dwy flynedd ar y safle’n cynnal y prosiect lles ‘Amazing Greys’.
Mae David Tams wedi cyhuddo’r elusen o chwyddo niferoedd y milgwn sydd wedi’u hanafu’n “enfawr”.
Cafodd Hope Rescue gais i adael trac Valley Greyhounds ar ôl cyflwyno’r ddeiseb i wahardd rasio milgwn.
Wrth ymateb i ddeiseb Valley Greyhounds, dywedodd Vanessa Waddon, sylfaenydd a Phennaeth Gweithrediadau Hope Rescue, fod y ddeiseb “wedi cyrraedd digon o lofnodion i’w hystyried ar gyfer dadl”.
“Ond dydy hynny ddim yn sicrhau y bydd dadl yn dod, yn enwedig pan fo disgwyl eisoes i’r mater fynd allan i ymgynghoriad yn ddiweddarach eleni, fydd yn cynnig cyfle i bob ochr allu codi llais a chyflwyno’u tystiolaeth.
“Mae’n ddiddorol mai un o’u cwynion ynghylch ein deiseb â 35,000 o lofnodion oedd fod ychydig yn llai na 19,000 o’r rheiny wedi dod o Gymru; hyd yn hyn, dim ond 2,817 o lofnodion o Gymru mae eu deiseb nhw wedi’u denu.”
Cynlluniau i ehangu’r stadiwm
Fe wnaeth Hope Rescue ymgyrchu hefyd yn erbyn datblygiad pellach yn y stadiwm.
Mae Valley Greyhounds wedi cyflwyno nifer o geisiadau cynllunio ar gyfer bar ychwanegol, ystafell bartïon, blwch beirniaid newydd, a milfeddygfa ar y safle.
Mae’r cynlluniau i ehangu’r stadiwm yn rhan o nod Valley Greyhounds i gael gafael ar drwydded rasio broffesiynol erbyn mis Ionawr 2024.
Mae’r gwaith adeiladu eisoes wedi dechrau ar y safle.
Mae’r ceisiadau wedi’u gwrthod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn unol â phwerau sydd wedi’u rhoi iddyn nhw, o ganlyniad i ddatganiad trafnidiaeth “annigonol” a diffyg asesiad o ganlyniadau llifogydd.
“Ar ddiwedd y dydd, rydyn ni wedi ymdrin â’r ddwy broblem, felly dydyn nhw ddim yn gallu ei wrthod,” meddai Malcolm Tams wrth ychwanegu bod y cynlluniau wedi’u hailgyflwyno.
Dywed Hope Rescue y byddai datblygu’r trac yn arwain at “ddwyshau” rasio milgwn a chynnydd mewn anafiadau a marwolaethau.
Beth mae gwleidyddion wedi’i ddweud?
Dywed y Cynghorydd Philippa Leonard, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili tros Gynllunio, ei bod hi’n gwrthwynebu’r cynlluniau i ehangu’r stadiwm.
“Fy meddyliau’n bersonol am hyn yw y byddai’n well gen i pe bai rasio milgwn yn cael ei ddileu yng Nghymru, ond mae’r cais y tu hwn i’m rheolaeth i, ac fe fydd yn nwylo’r pwyllgor,” meddai.
“Yn bersonol, dw i’n caru anifeiliaid a dw i ddim yn hoffi’r ffordd maen nhw’n cael eu trin ar ôl i’w gyrfaoedd orffen.”
Mae nifer o Aelodau’r Senedd wedi cefnogi’r gwaharddiad ar rasio milgwn yn gyhoeddus, gan gynnwys Delyth Jewell a Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru, ynghyd â Rhianon Passmore o’r Blaid Lafur.
“Tra fy mod i’n gwrthwynebu’r estyniad, dw i’n awyddus i gynnal sgwrs â phawb sydd ynghlwm wrtho,” meddai Hefin David, Aelod Llafur o’r Senedd dros Gaerffili.