Mae cymdeithasau pêl-droed Cymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon wedi cyflwyno cais ar y cyd i gynnal twrnament Ewro 2028.

Ymhlith y caeau sydd wedi’u henwi yn y cais mae Stadiwm Genedlaethol Cymru, ac mae’r capten Aaron Ramsey wedi cefnogi’r cais.

Dywed y cymdeithasau pêl-droed ar y cyd eu bod nhw wrth eu boddau o gael cynnig “cysyniad stadiymau o safon fyd-eang wedi’i deilwra ar gyfer Ewro 2028”.

Y caeau eraill sydd yn rhan o’r cais yw Wembley a Stadiwm Tottenham Hotspur yn Llundain, Stadiwm Dinas Manceinion, Stadiwm Lerpwl Everton, St James’ Park yn Newcastle, Villa Park yn Birmingham, Hampden Park yn Glasgow, y Dublin Arena yn Nulyn a Casement Park yn Belfast.

Bydd bron i dair miliwn o docynnau ar gael ar gyfer y twrnament, sy’n fwy nag unrhyw dwrnament Ewros blaenorol, a nifer cyfartalog y seddi ar gyfer y gemau fydd 58,000.

Fel rhan o’r cais, mae cynlluniau trafnidiaeth wedi’u cyflwyno, gyda mwy nag 80% o ddeiliaid tocynnau’n gallu teithio i gemau ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae trefn a lleoliadau’r gemau hefyd wedi’u cynllunio er mwyn lleihau allyriadau i’r amgylchedd, ac mae pwyslais arbennig ar roi croeso i bawb yn unol â’u hawliau dynol ac ar gynnwys menywod yn benodol.

Bydd gan y cais gefnogaeth llywodraethau gwledydd y Deyrnas Unedig ac Iwerddon hefyd, gan greu “profiad pêl-droed croesawgar, cyffrous a diogel y bydd chwaraewyr a chefnogwyr yn ei fwynhau ym mhob dinas ac ym mhob gêm”.

Cyfleoedd ariannol

Dywed y cymdeithasau y byddai’r cyfle i gynnal y twrnament yn “gyfle i drawsnewid datblygiad pêl-droed a chreu buddion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol”, gyda disgwyl y bydd yn ychwanegu £2.6bn i economi’r gwledydd.

Maen nhw’n dweud bod partneriaid y cais eisoes wedi ymrwymo mwy na £500m rhwng 2019 a 2025 i wella a diweddaru cyfleusterau pêl-droed ar lawr gwlad, gyda’r nod o ehangu rhaglenni buddsoddi yn nes at y twrnament.

Bydd cronfa waddol o £45m hefyd yn cael ei sefydlu i ddatblygu pêl-droed ac i greu gwaddol ychwanegol y tu hwnt i’r maes chwarae.

Y gobaith yw y bydd y twrnament yn creu cyfleoedd i wirfoddoli, a manteision eraill ym myd twristiaeth a hyfforddi gan roi sgiliau i bobol am weddill eu hoes.