Y Cymro Gerwyn Price yw’r chwaraewr cyntaf eleni i ennill pedair noson yn yr Uwch Gynghrair Dartiau, yn dilyn ei lwyddiant yn Brighton neithiwr (nos Iau, Ebrill 13).
Fe wnaeth y chwaraewr o Went guro’r Sais Michael Smith o 6-3 yn y rownd derfynol, ar ôl trechu Chris Dobey a Michael van Gerwen yn gynharach yn y noson.
Sicrhaodd e gyfartaledd tri dart o 115.97 yn erbyn Dobey, wrth ennill o 6-2, cyn mynd yn ei flaen i guro’r Iseldirwr van Gerwen o 6-5 gyda chyfartaledd o 108.08 yn y rownd gyn-derfynol.
Methodd van Gerwen â chyfle i orffen mewn naw dart ac yna gydag ymgais at ddwbwl 16 yn y gêm dyngedfennol.
Cafodd Price gyfartaledd o 100.08 wedyn yn erbyn Smith i gau’r bwlch yn erbyn van Gerwen ar frig y tabl wrth iddyn nhw gystadlu am le yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y nosweithiau.
Yn sgil ei fuddugoliaeth, mae Gerwyn Price wedi cipio pum pwynt a gwobr ariannol o £10,000.
Yn ôl y Cymro, mae ynghanol ei berfformiadau gorau ar hyn o bryd gerbron y camerâu teledu, ond mae’n pwysleisio bod “rhagor i ddod eto”.
Collodd y Cymro arall, Jonny Clayton, yn erbyn Michael Smith ar y noson.