Bydd tîm pêl-droed merched Cymru’n herio’r Unol Daleithiau, pencampwyr y byd, mewn gêm gyfeillgar ym mis Gorffennaf.
Bydd y gêm yn cael ei chynnal nos Sul, Gorffennaf 9, gyda’r gic gyntaf am 9 o’r gloch a hon fydd y gêm gyntaf erioed rhwng y ddwy wlad.
Bydd hefyd yn gyfle olaf i Gymru baratoi cyn Cynghrair y Cenhedloedd ac i’r Unol Daleithiau cyn Cwpan y Byd yn ddiweddarach eleni.
Daeth paratoadau Cymru cyn y toriad rhyngwladol i ben gyda gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Portiwgal, gyda Rachel Rowe yn sgorio gôl Cymru yn Guimaraes, ar ôl i Telma Encarnacao rwydo i’r tîm cartref.
Yr wythnos ddiwethaf, cafodd tîm Gemma Grainger fuddugoliaeth swmpus o 4-1 dros Ogledd Iwerddon yng Nghaerdydd gerbron y dorf fwyaf erioed ar gyfer gêm y merched.