Mae Pere Aragonès, arlywydd Catalwnia, wedi sefydlu pwyllgor arbennig i geisio trafod annibyniaeth â Llywodraeth Sbaen.

Bydd y pwyllgor yn gweithredu mewn ffordd debyg i Bwyllgor Deddf Eglurder Quebec.

Cafodd y syniad ei grybwyll haf diwethaf yn y gobaith o gynnal trafodaethau fis Medi y llynedd.

Mae Pere Aragonès eisoes wedi comisiynu’r pwyllgor i lunio adroddiad ac wedi galw cyfarfod â phob plaid wleidyddol ar ôl etholiadau lleol mis Mai.

Marc Sanjaume, Athro ym Mhrifysgol Pompeu Fabra, fydd yn llywio’r pwyllgor, ac fe fydd gwyddonwyr gwleidyddol ac arbenigwyr cyfreithiol o brifysgolion Catalwnia hefyd yn aelodau o’r pwyllgor.

Mae plaid Esquerra yn awyddus i bleidiau gwleidyddol eraill ddweud eu dweud cyn i’r drafodaeth gael ei hagor ymhellach i grwpiau cymdeithas sifil, ac maen nhw’n awyddus i glywed gan gynrychiolwyr o wahanol gymdeithasau, undebau, cwmnïau a sefydliadau mewn meysydd amrywiol yn cynnwys diwylliant a chwaraeon.

Mae disgwyl trafodaeth genedlaethol erbyn yr hydref, gyda chyfranwyr yn cael eu dewis ar hap ar gyfer wtyh trafodaeth wahanol.

Y gobaith yw llunio adroddiad terfynol erbyn dechrau’r flwyddyn nesaf er mwyn annog Llywodraeth Sbaen i roi caniatâd ar gyfer refferendwm swyddogol.

Y cam nesaf wedyn fyddai llunio Deddf Eglurder debyg i Quebec, ac mae Llywodraeth Catalwnia yn barod iddi gael ei thrafod gan y senedd gyfan pe bai angen.

Cefnogaeth?

Ond nid pawb sy’n fodlon derbyn syniad y llywodraeth.

Mae plaid Junts per Catalunya, oedd yn arfer bod yn rhan o lywodraeth glymblaid ag Esquerra, yn galw am gyfarfod gyda phleidiau gwleidyddol yn unig i drafod y mater er mwyn sicrhau “eglurder o ran sut ddylai Catalwnia ennill ei hannibyniaeth”.

Maen nhw hefyd yn pwysleisio nad yw refferendwm 2017 yn ddilys o hyd, sef dadl Llywodraeth Sbaen ar y pryd hefyd.

Mae’r cyn-arlywydd Carles Puigdemont hefyd wedi cyhuddo Pere Aragonès o “orfodi” cytundeb heb “y consensws angenrheidiol”.

Dydy plaid CUP ddim wedi cadarnhau eto y byddan nhw’n mynd i’r cyfarfod ym mis Mehefin, ac maen nhw’n dweud na fyddan nhw’n cymryd rhan oni bai bod consensws ar y mater cyn hynny.

Yn y cyfamser, mae’r Sosialwyr yn dweud mai “cefnogaeth leiafrifol” sydd i’r syniad ac mae Plaid y Bobol wedi beirniadu’r cynlluniau gan ddadlau nad oes “dim byd mwy eglur na’r Cyfansoddiad”.

Mae plaid Ciudadanos wedi beirniadu Pere Aragonès am “greu dadl lân nad yw’n mynd â ni i unman”.

Yn ôl plaid En Comú Podem, sydd heb farn yn benodol ar annibyniaeth, ddylai’r arweinydd ddim bod wedi galw cyfarfod â’r pleidiau gwleidyddol “heb gonsensws na chytundebau”.