Gallai’r cynlluniau i godi datblygiad sy’n gyfuniad o dai ac adeiladau busnes ar hen safle Swyddfa’r Post yn Ninbych y Pysgod fod yn destun amod fyddai’n galluogi 25% ohonyn nhw’n unig i gael eu defnyddio fel llety gwyliau.

Yn ystod eu cyfarfod ym mis Mawrth, cafodd cynllunwyr Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro eu hannog i gefnogi cais i ddymchwel y swyddfa dosbarthu yn yr ardal gadwraeth, a’i ddisodli gyda datblygiad cymysg pedwar llawr yn null y bedwaredd ganrif ar bymtheg o 34 o unedau preswyl ac eiddo masnachol ar y llawr gwaelod.

Yn hytrach, fe wnaeth yr aelodau ohirio’r penderfyniad ar y cais gan Trillium (RMF) Ltd, sy’n cynnwys uned o dai fforddiadwy ac unedau eiddo i’w rhentu’n gymdeithasol.

Cafodd y cais ei ohirio tan gyfarfod y pwyllgor ar Ebrill 19, ar ôl i aelodau holi am y posibilrwydd o gyfyngu’r defnydd o’r datblygiad i ddefnyddio’r dynodiad Dosbarth C3 (prif breswylfa) newydd yn unig, gan ddileu hawliau datblygu gafodd eu rhoi i atal y defnydd o Ddosbarth C5 a Dosbarth C6 (ail gartrefi a llety gwyliau).

Roedd aelodau hefyd wedi gwneud ymholiadau ynghylch mater diogelwch ar y ffyrdd, a’r graddau y byddai unrhyw gyfyngiadau ar y defnydd o deras to sydd wedi’i gynllunio.

Dywed adroddiad ar gyfer aelodau cyn y cyfarfod ym mis Ebrill fod oddeutu chwarter yr eiddo yng nghanol Dinbych y Pysgod naill ai’n ail gartrefi neu’n llety gwyliau, ac mae hynny’n codi i 40% yn yr ardal sydd wedi’i chynnwys yn y cais.

Mae tri o opsiynau wedi’u cynnwys ar gyfer aelodau’r pwyllgor os oedden nhw eisiau cefnogi amod ail gartrefi neu lety gwyliau ar y 34 uned breswyl – hyd at bum cartref cost isel neu gymdeithasol a dim cyfyngiadau ar ddosbarthiadau’r tai, cyfyngiad o 75% ar dai’r farchnad agored, a chyfyngiad 100% ar elfen marchnad agored y tai.

Adroddiad y pwyllgor

“Yn seiliedig ar y cais gan aelodau i ystyried goblygiadau’r fath gyfyngiad ar dosbarth defnydd C3, byddai swyddogion yn argymell, pe na bai aelodau’n dymuno gweithredu rheoliadau deiliadaeth, yna mae Opsiwn 2 [cyfyngiad o 75%] yn ddichonadwy ac yn cael ei ystyried yn hoff opsiwn, all gael ei gefnogi gan swyddogion fel opsiwn amgen addas i’r argymhelliad blaenorol i fynd i’r afael â chyfyngiadau Dosbarth Defnydd C3, yn unol â chais aelodau,” meddai adroddiad ar gyfer aelodau’r pwyllgor.

“Tra ystyrir bod yna dystiolaeth all gefnogi amod ar 100% o eiddo’r farchnad dan sylw [Opsiwn 3], mae swyddogion yn ystyried bod y risg o adleoli i leoliadau eraill a’r lefel is o dai fforddiadwy y byddai hyn yn eu gwneud yn ddichonadwy yn golygu bod Opsiwn 2 yn cynnig y cynllun cyfan gorau yn nhermau cymysgedd o fathau o dai i gefnogi rôl Dinbych y Pysgod fel canolfan ar gyfer gwasanaethau a thwristiaeth.”

Bydd aelodau yn y cyfarfod ar Ebrill 19 hefyd yn derbyn adroddiad pellach o’r pryderon gafodd eu codi am ddiogelwch y ffyrdd ac unrhyw gyfyngiadau ar y defnydd o derasau to.

Maen nhw’n cael eu hannog i roi sêl bendith amodol i swyddogion cynllunio, yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau ar ail gartrefi neu lety gwyliau sy’n cael eu cytuno ar y diwrnod.