Mae nyrs yn y sector gofal yng Nghymru, sydd eisiau aros yn ddienw, wedi datgelu wrth golwg360 fod 70% o’r staff sy’n gweithio yn y cartref gofal lle mae hi’n gweithio yn dod o dramor, ac yn bennaf o India a Nigeria.
Gyda chyfrifoldebau mawr yn y sector gofal, mae’n dweud fod gwell gan bobol gael swydd efo llai o gyfrifoldebau sy’n talu’r un cyflog, ac felly bod angen i’r cyflog fod yn uwch er mwyn recriwtio mwy o staff o wledydd y Deyrnas Unedig.
Yn ogystal, oherwydd ymddeoliadau, mae llawer o swyddi yn y sector gofal yn wag.
‘Rhwystrau a heriau’
Er ei bod hi’n teimlo ei fod yn beth positif fod staff yn dod o dramor i ofalu am ein henoed, teimla fod rhwystrau a heriau i ofalwyr o dramor.
Yn ôl y nyrs, mae gweithio mewn cartref gofal yn gyfrifoldeb mawr, a gyda’r bygythiad o ddal Covid-19 prin yw’r bobol o wledydd Prydain sydd eisiau gwneud y gwaith ac mae hi’n credu y dylai’r tâl adlewyrchu’r cyfrifoldeb.
“Mae pobol yn cael yr un cyflog i weithio mewn archfarchnadoedd, ac mae ganddyn nhw lawer llai o gyfrifoldeb,” meddai wrth golwg360.
“Oherwydd Covid, dydy pobol ddim mor barod i weithio mewn gofal oherwydd bod eu hiechyd mewn peryg.
“Mae llawer o bobol yn ei gweld fel swydd dead-end, lle rydych chi ar gyflog isel.
“Mae angen cael ei weld fel llwybr gyrfa gyda chyfleoedd.
“Y ffordd o gynyddu staff o’r gwledydd y Deyrnas Unedig yw codi cyflog.”
Pam dod o dramor i weithio yn y sector gofal?
Gyda rhai gwledydd yn dlotach yn economaidd, mae gweithio yn y sector gofal yng ngwledydd Prydain yn gyfle i bobol o dramor wella ansawdd eu bywydau.
“Mae pobol yn dod o dramor i wneud arian, i anfon arian at eu teuluoedd, a helpu i gael fisas,” meddai’r nyrs wedyn.
“Mae llawer yma o’r brifysgol.
“Maen nhw’n aml yn dod o wledydd tlotach yn economaidd, ac maen nhw am wneud bywyd yma.
“Dim ond fisa dwy flynedd sydd gan lawer, ac mae gweithio ym maes gofal iechyd yn eu helpu i gael fisa gwell ar gyfer y dyfodol.
“Weithiau, maen nhw’n teimlo bod ganddyn nhw lifestyle gwell yma.”
Bendith a melltith
Er bod y nyrs yn teimlo ei fod yn beth da bod pobol o dramor yn gofalu am yr henoed, mae’n dweud bod mwy o heriau a rhwystrau i weithwyr o dramor, gan fod ffactorau ieithyddol a diwylliannol i’w goresgyn.
“Mewn rhai ffyrdd, mae’n gadarnhaol bod pobol yn dod o dramor, oherwydd ni fyddai gennym unrhyw staff fel arall,” meddai.
“Mae arnom angen pobol i ofalu am ein henoed.
“Ar yr un pryd, gall yr effaith fod yn negyddol ar bobol hŷn oherwydd yr oes maen nhw wedi tyfu i fyny ynddi.
“Mae language barriers a dydyn nhw ddim yn gallu cyfathrebu, mae gofal personol yn eithaf intrusive…
“Mae rhai pobol yn anghyfforddus gyda phobol o dramor yn ei wneud, mae’n anffodus ond mae hynny oherwydd yr oes maen nhw wedi tyfu i fyny ynddi.
“Allan nhw ddim gwneud i’r person yn y cartref deimlo’n gartrefol.
“Mae yna bethau diwylliannol gyda bwyd, weithiau dydyn nhw ddim yn gallu gwneud paned o de neu dost.
“Mae’n rhaid i chi hyfforddi pobol o dramor i wneud pethau fel mae pobol yn ei wneud yng ngwledydd Prydain.”