GMae adolygiad wedi dod i’r casgliad y dylai oedolion ag anableddau dysgu gael defnyddio adeilad, ar ôl i Gyngor ymddiheuro am gau canolfan ddydd heb ymgynghoriad.

Roedd pobol ag anableddau dysgu a’u teuluoedd yn Sir Fynwy wedi cwyno eu bod nhw’n teimlo’n ynysig ac wedi’u gwahanu oddi wrth eu ffrindiau ers i’r ganolfan ddydd roedden nhw’n ei defnyddio gael ei chau ar ddechrau’r pandemig Covid-19 fis Mawrth 2020.

Fis Tachwedd y llynedd, cyhoeddodd Cabinet Llafur Cyngor Sir Fynwy eu bwriad i gau canolfan ddydd Tudor Street yn y Fenni yn barhaol, a honno’n ganolfan ar gyfer y gwasanaeth cefnogaeth My Day, My Life i oedolion ag anableddau dysgu.

Dywedon nhw fod y niferoedd oedd yn ei defnyddio wedi gostwng ers cyn dechrau’r pandemig, a’u bwriad oedd gwerthu’r safle ar gyfer tai fforddiadwy cyn i reolau cynllunio llymach gael eu cyflwyno ym mis Mehefin fyddai’n gallu cyfyngu ar y potensial i’w ailddatblygu.

Arweiniodd hyn at brotest y tu allan i’r ganolfan ac ymateb negyddol gan y cyhoedd, arweiniodd yn y pen draw at ymddiheuriad gan Mary Ann Brocklesby, arweinydd y Cyngor, i ddefnyddwyr y gwasanaeth yn ystod cyfarfod llawn o’r Cyngor ym mis Ionawr, pan ddaeth cadarnhad hefyd na fyddai penderfyniad ynghylch dyfodol y gwasanaeth hyd nes bod adolygiad o’r gwasanaeth My Day, My Life wedi adrodd yn ôl.

Argymhellion

Mae’r adroddiad gan yr ymgynghorwyr annibynnol Practice Solutions bellach wedi’i gyhoeddi, ac mae wedi gwneud deg o argymhellion i’r Cyngor, sy’n cynnwys y “dylai fod gan y gwasanaeth adeiladau diogel a hygyrch”.

Does dim sôn yn benodol am ganolfan Tudor Street yn yr argymhelliad, sy’n tynnu sylw at y ffaith fod “pawb” roedden nhw wedi siarad â nhw fel rhan o’r adolygiad, oedd yn cynnwys defnyddwyr gwasanaethau, eu teuluoedd a staff, wedi nodi bod angen i’r rhai sy’n cael eu cefnogi “gael adeiladu diogel a hygyrch ar gael iddyn nhw”.

Dywedodd yr adroddiad fod “nifer o adeiladau posib wedi cael eu hadnabod” a bod yna safbwyntiau gwahanol ynghylch un “adeilad sefydlog” neu a ddylid defnyddio adeiladau gwahanol drwy gydol yr wythnos.

Yn ogystal â Chanolfan Tudor, cyn mis Mawrth 2020 roedd y gwasanaeth wedi defnyddio Theatr Melville yn y Fenni a chanolfannau Mynwy a Monnowvale.

Dywedodd yr argymhelliad hefyd y dylai’r Cyngor “geisio cynyddu nifer yr adeiladau cyhoeddus a llefydd newid sy’n briodol ar gyfer unigolion sydd ag anghenion iechyd corfforol, fel bod unrhyw un ag anabledd corfforol yn teimlo’u bod nhw’n gallu treulio mwy o amser allan yn eu cymunedau”.

Roedd yr adroddiad wedi nodi pryderon teuluoedd a staff ynghylch diffyg cyfleusterau, megis llefydd newid sydd yn doiledau i bobol ag anableddau â gofod ychwanegol, sydd wedi cyfyngu ar allu pobol i fynd allan, ac fe arweiniodd at alwadau ar i’r gwasanaeth gael canolfan all ateb anghenion ychwanegol megis prosesu bwyd y rhai sy’n cael eu cefnogi.

Roedd y Cyngor wedi comisiynu adolygiad o’r gwasanaeth My Day, My Life cyfan, sy’n gweithredu yn y Fenni a Threfynwy, gyda threfniadau ar wahân yn eu lle ar gyfer de’r sir, fis Medi y llynedd.

Dywedodd y Cyngor eu bod nhw wedi symud i ffwrdd oddi wrth ddarpariaeth canolfan ddydd “dyddiedig” i gefnogaeth sy’n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn, ond daeth yr adolygiad o hyd i wendidau yn y gwasanaeth ac o ran sut roedd wedi gweithredu ers cyflwyno My Day, My Life yn 2014.

Ar yr adeg honno, cafodd yr angen ar gyfer canolfan o fewn y gymuned ei gydnabod ond doedden nhw ddim wedi agor ers cyfnodau clo Covid-19, ac mae llai o weithgareddau ar gael erbyn hyn, gyda rhai yn dweud mai’r cyfan gafodd ei gynnig iddyn nhw oedd “mynd am dro o amgylch y parc”.

Nododd yr adroddiad fod “nifer o rieni’n teimlo bod gweithgareddau wedi bod yn llai ystyrlon ers diwedd y pandemig, gydag ychydig iawn o amrywiaeth ar gael, bod oriau cefnogaeth yn llai o lawer ers i gefnogaeth un-i-un ddisodli model gwasanaeth y ganolfan ddydd”.

Roedd yr adroddiad hefyd yn argymell cydweithio â defnyddwyr gwasanaethau, eu teuluoedd a staff er mwyn “adfer a datblygu” agweddau positif y gwasanaeth, ac y dylai ddychwelyd i’r egwyddor o ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolion, sef y bwriad yn 2014.

Mae hefyd wedi argymmell penodi cydlynydd gweithgareddau ymroddedig llawn amser, gyda’r arolwg yn tynnu sylw at ddiffyg ymwybyddiaeth o’r gweithgareddau y gall pobol eu gwneud, problemau o ran cael mynediad at weithgareddau gan gynnwys cost a fforddiadwyedd o ganlyniad i’r argyfwng costau byw, ac a all staff gefnogi rhai gweithgareddau megis nofio neu drampolinio.

Gallai gweithgareddau gynnwys dod o hyd i waith â chyflog, gwirfoddoli, digwyddiadau cymdeithasol, chwaraeon, adloniant a dysgu sgiliau newydd er mwyn bod mor annibynnol â phosib.

Bydd angen oriau gwaith newydd hefyd os yw’r gwasanaeth am fod ar gael yn ystod y nos ac ar benwythnosau, yn hytrach nag oriau 9-5 traddodiadol o ddydd i ddydd, a dylid ymgynghori â’r 17 aelod o staff, y rhan fwyaf ohonyn nhw’n ran-amser, ynghylch newidiadau i oriau ac amodau gwaith, gyda’r Cyngor hefyd yn cael siars i ddarparu arweinyddiaeth a chefnogaeth well i staff.

Rhaid gwella wrth gadw cofnodion, hefyd, fel bod staff yn ymwybodol o anghenion a chyflyrau iechyd unigolion, gan gynnwys alergeddau.

Dywedodd yr adroddiad fod rhaid mynd i’r afael â hyn ar frys, gan nodi y gall fod disgwyl i staff fynd â rhywun allan am bryd o fwyd heb wybod am “alergedd bwyd sy’n peryglu eu bywyd”.

Dywedwyd wrth y Cyngor hefyd fod rhaid iddyn nhw “ymrwymo’n ystyrlon” y rhai sy’n cael eu cefnogi, a’u teuluoedd, er mwyn cyd-ddylunio’r gwasanaeth newydd, gan gynnwys pobol ifanc allai ei ddefnyddio yn y dyfodol, a gweithio ar draws yr awdurdod lleol i “roi cynnig gwasanaeth cyson ar waith ledled y sir”.

Dylai’r Cyngor ystyried hefyd sut mae eu gwasanaethau amrywiol ar gyfer y rhai ag anableddau’n cydweithio, a’r posibilrwydd y dylid cyfuno My Day, My Life â’u Gwasanaeth Cefnogaeth Unigol, sut mae cefnogaeth yn cael ei chynnig i bobol o oed gwahanol a sut y gallan nhw gynyddu opsiynau pobol ar gyfer digwyddiadau, gweithgareddau a chefnogaeth i fynd atyn nhw na fyddai o reidrwydd yn arwain at gost ychwanegol.

Dylid darparu mwy o wybodaeth am wasanaethau hefyd, gan fod pobol wedi dweud nad oedden nhw’n ymwybodol o ba gefnogaeth sydd ar gael.

Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn gofyn i unrhyw sydd â diddordeb i gwblhau holiadur ar-lein ar Ebrill 28, wrth iddyn nhw ystyried argymhellion yr adroddiad a datblygu cynllun ar gyfer y gwasanaeth My Day, My Life.