Mae’r Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig  wedi bod yn llwyddiant, yn ôl Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

Ar ôl rhaglen o hyfforddiant, mentora, cefnogaeth ac arweiniad dros dair sesiwn breswyl ddwys, mae Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig agoriadol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi dod i ben erbyn hyn.

Lansiodd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru y rhaglen newydd fis Mai y llynedd, gyda chefnogaeth Sir Forgannwg, gan ddechrau gyda diwrnod dethol a blasu i’r darpar ymgeiswyr ar fferm.

Roedd y rhaglen wedi’i hanelu at ysbrydoli arweinwyr y dyfodol mewn amaethyddiaeth, ac yn rhoi’r cyfle i ddatblygu sgiliau arwain ar adeg dyngedfennol i’r sector amaethyddol.

Cafodd enwau’r 14 ymgeisydd llwyddiannus eu cyhoeddi yn ystod seremoni wobrwyo yn Sioe Frenhinol Cymru fis Gorffennaf y llynedd.

Y lleoliadau

Cafodd y gyntaf o’r tair sesiwn breswyl ei chynnal ar Faes Sioe Frenhinol Cymru fis Medi diwethaf, lle clywodd aelodau’r rhaglen dros y tridiau gan unigolion yn y diwydiant o fudiadau megis NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru a Sefydliad Daniel Picton- Jones.

Darparodd y Cyflwynydd a’r Newyddiadurwr Darlledu, Mariclare Carey Jones hyfforddiant yn y cyfryngau i’r grŵp, gan drafod cyfarwyddyd ar gyfweliadau’r cyfryngau, y cyfryngau cymdeithasol a phroffiliau yn y cyfryngau, cyn i’r aelodau gael y cyfle i ymarfer eu cyfweliadau eu hunain ar gyfer adborth.

FIs Tachwedd diwethaf, mynychodd aelodau y rhaglen Gynhadledd Ffermio Rhydychen, sy’n cael ei chynnal bob blwyddyn, yng Nghaerdydd.

Roedd y gynhadledd yn cynnwys cyflwyniadau gan ddetholiad o Ysgolorion Ffermio Nuffield yn 2020 a 2021.

Yn rhychwantu amryw o sectorau, fe wnaeth yr Ysgolorion oedd yn cyflwyno rannu eu mewnwelediadau a’u hargymhellion i ddiwydiant yn dilyn eu hastudiaethau ar draws y byd.

Digwyddodd y sesiwn olaf ym mis Ionawr eleni, gan ddechrau yn ne Cymru gydag ymweliad â Siop Fferm Forage ac Ystâd Penllyn, cyn symud i Sussex ar gyfer taith fferm o amgylch Weston’s Farm, cartref David Exwood, Is-Lywydd yr NFU.

Y lleoliad nesaf oedd Ystâd Knepp Castle yn Horsham, i gael gwybod am eu prosiect dad-ddofi tir, cyn cael cinio gyda Daniel Burdett, Ysgolor Nuffield, i drafod amaethyddiaeth atgynhyrchiol.

Roedd y diwrnod canlynol yn cynnwys galw heibio i Siop Fferm Gloucester Services ble’r oedd cyflwyniad ar werthiant a marchnata gan David Morland, Pennaeth Bwtsieraeth Westmorland Family, busnes teuluol sy’n rhedeg mannau gwasanaethau traffyrdd unigryw wedi’u lleoli yn Sir Cumbria.

Wedi hynny, dychwelodd y rhaglen i Gymru, lle gwnaeth y grŵp ymweld â Thre-biwt i gyfarfod gweithwyr cymorth a dod i wybod am brosiectau cymunedol o fewn yr ardal drefol.

Daeth y sesiwn olaf i ben gyda thaith o amgylch y Senedd a sgyrsiau gydag aelodau allweddol o Senedd Cymru, megis Llŷr Gruffydd (Plaid Cymru), a’r Aelodau Ceidwadol, Samuel Kurtz a James Evans.

Aelodau’r rhaglen

Fel newydd-ddyfodiad i ffermio, cafodd Natalie Hepburn o Garlic Meadow, un o aelodau’r rhaglen, y profiad o gael mynediad at adnoddau a hyfforddiant na fyddai hi wedi gwybod amdanyn nhw o’r blaen oni bai am y rhaglen.

“Rwyf wedi ymweld ag amryw o ffermydd a mentrau gwledig sydd wedi ehangu fy ngorwelion a gwneud imi feddwl yn wahanol am fy musnes fy hun,” meddai.

“Teimlaf fy mod wedi elwa ar y sesiynau datblygu personol o ran hyder.

“Rwyf wedi cyfarfod criw anhygoel o unigolion, yr wyf yn edrych ymlaen at barhau i weithio â nhw yn y dyfodol.”

Dywed Rhys Jones o Crosshands yn Sir Gaerfyrddin, aelod arall o’r Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig, fod y rhaglen wedi rhoi’r egni iddo gyflawni mwy ac i ddatblygu ymhellach.

“Mae’r rhaglen wedi caniatáu inni’r cyfle i siarad ag arweinwyr diwydiant sydd wedi ein wir ysbrydoli fel grŵp,” meddai.

“Rydym i gyd yn ddiolchgar iawn ac mae pob un ohonom yn barod ac wedi ein galluogi yn awr gyda’r arfau cywir i gyfrannu’n gadarnhaol ac i arwain y diwydiant gwledig yn ei flaen.”