Mae addasiad Cymraeg o gân arbennig Shân Cothi a Trystan Llŷr Griffiths ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yn cael ei gyhoeddi heddiw (dydd Iau, Medi 7).

Mae Byd O Heddwch yn benthyg tôn yr anthem rygbi fawr World in Union gan Gustav Holst, ond mae’r geiriau Cymraeg arbennig wedi’u hysgrifennu gan Penri Jones.

Wrth gefnogi tîm Cymru yn y twrnament byd-eang yn Ffrainc, mae’r gân yn galw am heddwch ar draws y byd.

Y gobaith yw y bydd y trefniant newydd o’r alaw, ynghyd â neges heddychlon y geiriau cynhwysol, yn cynnau fflam newydd ac yn cydio yng nghalonnau ac eneidiau’r genedl.

Mae’r gân bellach ar gael i’w lawrlwytho o bob llwyfan ffrydio digidol, a’r fideo ar gael ar YouTube.

Syniad â’i wreiddiau yng Nghrymych

Trystan Llŷr Griffiths gafodd y syniad o recordio’r gân.

Yn ogystal â bod yn ganwr opera llwyddiannus sy’n perfformio’n fyd-eang, mae’r tenor o Grymych hefyd yn chwarae rygbi i’r tîm rygbi lleol, a daeth y syniad o recordio fersiwn newydd o’r dôn adnabyddus iddo ar ôl ennill Cwpan Sir Benfro gyda Chrymych ddiwedd mis Mai.

“Cafodd y fersiwn gyntaf o World in Union ei recordio gan Kiri Te Kanawa ar gyfer cwpan Rygbi’r Byd yn 1991 ac ers hynny wedi cael ei recordio sawl tro gan wahanol artistiaid gan gynnwys Bryn Terfel a Shirley Bassey,” meddai.

“Gan fod y dôn yn adnabyddus i bawb, feddyliais i pam na fydden ni yn recordio rhywbeth newydd, cynhwysol yn y Gymraeg ar gyfer Cwpan y Byd?

“Cafwyd lot o sbort yn recordio ar y diwrnod, a gobeithio wneith y gân yma godi’ch calon!

“Pob lwc Cymru!”

Uno pawb “drwy ganu nerth eu pennau”

Mae Shân Cothi yn gobeithio uno pawb ar draws y genedl “drwy ganu nerth eu pennau”.

Mae’r gantores opera wedi troedi llwyfannau’r byd, ac mae hi’n dweud bod cael y cyfle i berfformio ar drac anthemig Cymreig sydd â’r nod o “roi hwb i’r tîm ac i gael pawb i uno drwy ganu nerth eu pennau” yn brofiad gwych ac yn un fydd yn aros yn ei chof.

“O eiriau pwerus Penri Jones a threfniant opera roc anthemig Rhys Taylor, i waith offerynnol arbennig y cynhyrchydd Branwen Munn, mae’r cyfuniad yn drac pwerus a theimladwy sy’n siŵr o’ch cael chi ar eich traed ac hyd yn oed eich hysbrydoli i ddynwared chwarae ychydig o air guitar!

“Ond yn bwysicach na hynny yw’r neges o uno – a dwi’n siŵr y gwnewch chi deimlo’r cynhesrwydd unedig oedd yn y stiwdio wrth inni recordio, sy’n cael ei adlewyrchu drwy’r gân.

“C’mon Cymru!”

Parchu gwaddol y gân gyda fersiwn gynhwysol newydd

Gyda’r geiriau wedi’u hysgrifennu’n wreiddiol gan Penri Jones ar gyfer Côr Godre’r Aran, mae’r trac newydd sbon yma’n gyfuniad o drefniant cerddorol Rhys Taylor a grym melodi wreiddiol Gustav Holst, sy’n arddangos elfennau o bop, roc ac opera.

“Pleser o’r mwyaf oedd cael cyfuno melodi hyfryd Gustav Holst gydag arddull nodweddiadol un o’m hoff fandiau, Queen,” meddai Rhys Taylor.

“Y bwriad oedd rhoi cyfeiliant ychydig yn wahanol i leisiau operatig Shân a Trystan, ond gan gadw yn dryw i’r gwreiddiol a pharchu gwaddol y gân World in Union.”

Cafodd y gân ei recordio yn stiwdio newydd Coco & Cwtsh yn Sir Gaerfyrddin, a chafodd ei chynhyrchu gan Branwen Munn o Goldhill Studios.

“Fel menter a busnes newydd, roedd hi’n bleser ac anrhydedd pur i gael cewri’r byd canu yn recordio yn ein stiwdio ar gyfer cân sydd yn dathlu ac yn annog ein cewri rygbi ni yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd eleni,” meddai Ffion Gruffudd, Prif Weithredwr Stiwdio Coco & Cwtsh.

“Mae stiwdio Coco & Cwtsh wedi’i sefydlu er mwyn hybu talent a chreadigrwydd yn yr ardal a thu hwnt, ac mae Byd o Heddwch yn cyd-fynd yn berffaith gydag ethos ein stiwdio o greu gofod cynhwysol a diogel i bawb.”

Yn ôl Branwen Munn, mae cael gweithio ar yr anthem gyda Shân Cothi a Trystan Llŷr Griffiths – “talent anhygoel” – “mewn gofod mor gynhwysol a chroesawgar wedi bod yn bleser pur”.

“Rwy’n hynod falch o’r hyn rydym wedi’i greu – recordiad epig o gân gyda neges heddychlon a chynhwysol wrth wraidd ei chalon,” meddai.

“Rwy’n gobeithio y bydd yn cyrraedd pob cwr o’r byd yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd 2023 a thu hwnt.

“Pob lwc Cymru!”

  • Mae’r trac ar gael i’w lawrlwytho ar bob prif blatfform ffrydio a digidol gan gynnwys Spotify, Apple, Soundcloud a Deezer.