Mae Cwpan Rygbi’r Byd yn digwydd cael ei gynnal eleni yn ystod dathliad blwyddyn o hyd o’r cysylltiadau rhwng Cymru a Ffrainc, ac fel rhan o’r dathliadau bydd amryw o artistiaid Cymraeg, gan gynnwys Adwaith, Sage Todz a Mace the Great yn camu ar lwyfannau ger Tŵr Eiffel ac yn y Pentrefi Rygbi Swyddogol, ynghyd â lleoliadau eraill.

Bydd amryw o weithgareddau eraill hefyd er mwyn hybu’r berthynas rhwng y gwledydd, gan gynnwys sesiynau blasu gyda thiwtor o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a chyflwyniad i ddiwylliant Cymru trwy ganu a drama llysgenhadon Urdd Gobaith Cymru.

Daw’r gweithgareddau yn dilyn cydweithio rhwng nifer o sefydliadau megis Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050, yr Urdd, Clwb Ifor Bach a Hybu Cig Cymru.

Bydd Hybu Cig Cymru yn arddangos y goreuon o ran bwyd a diod Cymru, tra bydd digwyddiadau busnes a gwleidyddol hefyd mewn meysydd megis datgarboneiddio ac ynni gwyrdd.

Yn Lyon, prifddinas bwyd Ffrengig, bydd digwyddiad i arddangos y cynhyrchion bwyd a diod gorau o Gymru, mewn partneriaeth â Hybu Cig Cymru.

Bydd y digwyddiad hwnnw’n cael ei gynnal ar ôl y gêm olaf ond un yn erbyn Awstralia, cyn cyffro’r rowndiau terfynol.

Ar hyn o bryd, Ffrainc yw’r mewnforwyr mwyaf o ran bwyd a diod o Gymru, sy’n werth £150m.

Mae dros 80 o gwmnïau hefyd sydd dan berchnogaeth Ffrancwyr yng Nghymru, ac sy’n cyflogi dros 10,000 o bobol.

‘Platfform gwych’

Bydd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth yn Llywodraeth Cymru, yn mynd i seremoni agoriadol Cwpan Rygbi’r Byd yn Paris ddydd Gwener, Medi 8, a’r gêm rhwng Cymru a Ffiji yn Bordeaux.

“Mae’n dda gen i ein bod yn gallu gweithio gyda phartneriaid i gynnal arddangosfa mor gyffrous ar gyfer Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd,” meddai.

“Mae hwn yn blatfform gwych inni bwysleisio’r cysylltiadau gwerthfawr rhwng Cymru a Ffrainc, a hefyd i ddangos ein diwylliant i weddill y byd – yn ogystal â dymuno pob llwyddiant i’n tîm ni ar gyfer eu hymdrechion ar y cae.”

Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford fod y cysylltiadau rhwng Cymru a Ffrainc yno yn barod, ac mai dim ond cyfle i’w hatgyfnerthu yw hwn.

“Rydyn ni hefyd yn rhannu cysylltiadau busnes ardderchog, a dim ond atgyfnerthu’r cysylltiadau hynny y bydd ein harddangosfa deithiol gydweithredol,” meddai.

“O gerddoriaeth i’r bwyd gorau o Gymru, byddwn ni’n dathlu Cymru ar y cae ac oddi arno yn ystod y twrnamaint hwn, a hoffwn i groesawu ffans sydd wedi teithio i Ffrainc a phobl Ffrainc i fwynhau ein digwyddiadau o’r radd flaenaf.”

Dywed Maggie Russell, cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, fod digwyddiadau chwaraeon yn gyfle gwych i hybu diwylliant.

“Mae digwyddiadau chwaraeon mawr fel Cwpan Rygbi’r Byd a’r Gemau Olympaidd yn cynnig llwyfannau cyffrous i artistiaid o Gymru gyflwyno eu gwaith i gynulleidfaoedd newydd ac i feithrin cysylltiadau newydd ag artistiaid yn Ffrainc – ac wrth gwrs i godi proffil ac ysbryd Cymru yn Ffrainc,” meddai.

“Mae artistiaid yn llysgenhadon gwych ar gyfer Cymru, a gyda’n gilydd byddwn ni’n hybu ein gwerthoedd cyffredin fel cydraddoldeb, amrywiaeth, iaith a chynhwysiant gyda’n partneriaid yn Ffrainc.”