Bydd holl gemau Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn Ffrainc yn cael eu darlledu’n fyw ar S4C.

Sarra Elgan, Jason Mohammad a Lauren Jenkins fydd yn cyflwyno’r darllediadau o’r twrnament.

Gareth Charles fydd y prif sylwebydd, gyda Mike Phillips, Gwyn Jones, Siwan Lillicrap, Rhys Priestland, Dyddgu Hywel, Robin McBryde a Rhys Patchell yn ddadansoddwyr.

Bydd Cymru’n chwarae yng ngrŵp C yn erbyn Ffiji, Portiwgal, Awstralia a Georgia.

Bydd darllediadau S4C yn dechrau gyda’r gêm agoriadol rhwng Ffrainc a Seland Newydd, a byddan nhw’n dilyn tîm Warren Gatland trwy gydol y twrnament, ac yn dangos rownd yr wyth olaf, y rownd gyn-derfynol, y gêm trydydd safle a’r rownd derfynol yn fyw o Stade de France yn Paris.

Bydd darllediadau S4C yn cynnwys rhaglenni rhagflas gyda Sarra Elgan, fydd hefyd yn ymuno â Jonathan Davies a Nigel Owens i drafod tim Cymru ar Jonathan.

Bydd modd clywed y diweddaraf am garfan Cymru ar y vodcast Allez Les Rouges, sy’n cael ei gyflwyno gan Lauren Jenkins.

Bydd penodau wythnosol o’r vodcast yn y cyfnod yn arwain at yr ymgyrch, ac yn ystod Cwpan y Byd, ar sianel YouTube S4C a BBC Sounds.

Bydd Newyddion S4C hefyd yn dod â’r diweddaraf am ymgyrch Cymru yn Ffrainc drwy gydol Cwpan Rygbi’r Byd.

Bydd uchafbwyntiau tair gêm Cymru yng Nghyfres yr Haf hefyd ar S4C, yn dilyn darlledu’r gemau byw ar Prime Video.

Bydd modd gwylio holl gemau Cymru o Gwpan Rygbi’r Byd ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.


Mae Gareth Charles wedi bod yn rhannu ei feddyliau gyda golwg360. Dyma sut mae’n ei gweld hi ar drothwy Cwpan y Byd…

Sut siâp fydd ar Gymru?

Roedd Cymru, ar adegau yn y Chwe Gwlad, yn ofnadw. Does dim gair arall amdanyn nhw.

Ond enillon nhw rywfaint a fi’n credu hefyd, fel sydd yn digwydd gyda Gats [Warren Gatland], fwya’ o amser maen nhw’n cael gyda’i gilydd a fwya’ o amser mae Gats yn cael nhw, maen nhw yn dod.

Fel fi’n gweld hi ar y funud, fi’n credu taw ail fyddwn ni i Awstralia, ond o leia’ fyddwn ni trwyddo.

A fydd Cymru’n curo Awstralia?

Mae’n weddol gyfartal, yn enwedig ar ôl Cwpan y Byd diwetha’ lle gaethon ni ganlyniad ffantastig yn erbyn Awstralia i ennill y gêm, a Rhys Patchell wedi dod ymlaen a chael gêm ardderchog.

Fi ddim yn siŵr. Fi’n gweld ni’n colli honna, ond fi’n dal yn ffyddiog bo ni’n mynd i fynd trwy’r grŵp a chyrraedd y chwarteri, a gewn ni weld beth ddigwyddith wedyn.

Pa mor anodd fydd y gêm yn erbyn Ffiji, o gofio’r potensial i golli fel wnaeth Cymru yn 2007?

Wnaethon nhw guro Samoa penwythnos yma, felly mae’n amlwg bo nhw â bach o siâp arnyn nhw hefyd, ond fi yn credu bo ni’n ddigon da i guro Ffiji.

Roedd y gêm yn 2007 yn Nantes yn un fythgofiadwy am y rhesymau anghywir, efallai, ffantastig o gêm ond fe gostiodd hi swydd Gareth Jenkins iddo fe.

Fi’n credu taw honna, mewn gwirionedd, yw gêm fawr y grŵp achos, os gollwn ni honno, byddwn ni mewn trafferth.”

Ond enillwn ni honna, a fi’n credu bod digon gyda ni wedyn i fynd trwodd.”

Ai Georgia a Phortiwgal fydd y buddugoliaethau hawdd?

Ni bach mwy cyfarwydd â Georgia, yn amlwg, yn y ffaith bo ni wedi colli iddyn nhw ’nôl ym mis Tachwedd, ond unwaith eto bydd ein tîm cryfa’ ni ma’s ar eu cyfer nhw. Ie, bydd hi’n her, ond yng Nghwpan y Byd diwetha’, wnaethon ni’n gyfforddus yn eu herbyn nhw.

Portiwgal? Dyna’r cyfle i roi gorffwys i rai o’r chwaraewyr a dod mewn â chwaraewyr eraill, achos honna fydd y gêm hawsa’ o bell ffordd.”

Pwy fydd capten Cymru?

Jac Morgan neu Dewi Lake. Dyna’r ddau amlwg.

Y peth yw gyda Jac, dyw e ddim yn saff o’i le achos dydyn nhw ddim yn siŵr o’r cydbwysedd maen nhw’n mo’yn yn y rheng ôl. Fi’n credu bod Dewi Lake ers tro wedi edrych fel rhywun fyddai’n dod yn gapten i Gymru. Ydy e’n barod nawr? Dw i ddim yn siŵr, ond mae hanes gyda Gats o wneud hyn, a wnaeth e’r un peth gyda Sam Warburton.

Bydd Dewi Lake yn gapten ar Gymru rywbryd, synnen i ddim mai fe geith y job yn ystod Cwpan y Byd hefyd.

  • Ewch i Instagram neu TikTok golwg360 i glywed mwy gan Mike Phillips a Rhys Priestland.