Wrth siarad â golwg360, mae’r sylwebydd rygbi Gareth Charles wedi talu teyrnged i “Mr Rygbi Cymru”, Clive Rowlands, sydd wedi marw’n 85 oed.
Bu’r ddau yn sylwebu i BBC Cymru am nifer o flynyddoedd, gan gydweithio yng Nghymru a thu hwnt, ac mae’n dweud bod “angerdd Clive tuag at rygbi Cymru, tuag at Gymru yn gyffredinol, yn gwbl unigryw ac yn anhygoel”.
Dywed fod “Cymru wedi colli un o’r goreuon yn Clive, heb os nac oni bai”.
‘Stôr o wybodaeth a straeon’
“Roedd e’n stôr o wybodaeth ac yn stôr o straeon,” meddai Gareth Charles.
“Roedd e jyst yn gymeriad, a’r wên yna’n ffantastig, a’r chwerthiniad.
“Roedd gyda fe jôc ar gyfer pob achlysur, fel oedd gyda fe stori ar gyfer pob achlysur.
“Does dim ots ble oeddet ti’n mynd yn y byd, roedd rhywun yn nabod Clive.
“Os buodd Mr Rygbi Cymru erioed, wel, Clive oedd hwnna, wedi chwarae pob gêm ryngwladol fel capten ac wedyn popeth o fod yn hyfforddwr, yn ddewiswr, yn llywydd, yn bob un dim.
“Mae’r gair legend yn cael ei ddefnyddio lot rhy aml, yn enwedig gyda ni yn y meysydd chwaraeon, ond mae e’n gwbl, gwbl addas i Clive.
“Ges i lot fawr o bleser o oriau yn ei gwmni fe, yn gweithio i’r BBC yng Nghymru ac ar draws y byd i gyd, ac roedd e’n gwmni ffantastig.
“Roedd e’n nabod pawb, ac roedd pawb yn nabod Clive, ac roedd gyda fe stori ar gyfer pob achlysur.
“Roedd e’n gallu siarad gyda phawb, ac roedd e wrth ei fodd yn cymdeithasu a siarad gyda phawb.”
Dim pàs ym Murrayfield
Un gêm sy’n cael ei chysylltu bron yn llwyr â Clive Rowlands yw honno rhwng Cymru a’r Alban ym Murrayfield yn 1963.
Yng nghanol tywydd garw, roedd 111 o leiniau yn ystod y gêm, a hynny’n bennaf o ganlyniad i gicio parhaus y Cymro Cymraeg.
Bryd hynny, roedd modd cicio’n syth dros yr ystlys o chwarae agored, ac fe gymerodd rai blynyddoedd wedyn i’r awdurdodau wahardd cicio’n syth i’r ystlys.
Ond y Cymro Cymraeg sy’n cael ei gofio fel y dyn achosodd y newid yn y rheolau erbyn 1968.
Flynyddoedd wedyn, roedd Clive Rowlands a Gareth Charles yn cydweithio ym mhencadlys rygbi’r Alban, yn sylwebu yno ar gêm Cymru.
“Wrth bo ni’n cerdded rownd tu fa’s i Murrayfield i fynd i le’r wasg, dyma ryw foi mewn siaced felen yn dod lan a dweud, “Excuse me, sir. Pass?” meddai Gareth Charles.
“Medde fe, ‘Don’t you know who I am? I’m Clive Rowlands. I never pass in Murrayfield, only kick!”
…a dim bag yn Paris
Gartref neu oddi cartref, byddai Clive Rowlands bob amser yn falch o’i filltir sgwâr yng Nghwm Tawe.
Ar un achlysur cofiadwy, roedd Gareth Charles a Clive Rowlands ymhlith criw o Gymru oedd wedi teithio i Bordeaux yn Ffrainc ar gyfer rownd derfynol Cwpan Heineken.
Roedd eu hediad o Gaerdydd i Paris yn hwyr, ac roedden nhw mewn brys gwyllt i ddal hediad arall o Paris i Bordeaux yng nghanol tywydd gwael.
“Gaethon ni un ffleit o Gaerdydd i Paris, ac wedyn ffleit arall o Paris i Bordeaux, ac roedd niwl wedi bod so oedd y ffleit o Gaerdydd yn hwyr,” meddai Gareth Charles.
“Ro’n ni mewn rush i ddal y connecting flight, a ddaeth bag Clive ddim trwyddo.
“Roedd ei feddyginiaeth e i gyd yn y bag a doedd dim sôn amdano fe.
“Dywedais i, ‘Reit, wna’i aros, cerwch chi, ga’i ffleit hwyrach neu beth bynnag, a dywedodd [y sylwebydd] Brian Price, ‘Alright, I’ll stay with you as well‘.
“Aethon ni lan i’r lle a dweud fod bag Clive heb ddod trwyddo, ond fod e’n bwysig a bod meddyginiaeth ynddo fe, bo ni’n mynd i Bordeaux ac a allen nhw hala’r bag ymlaen.
“A dyma’r ferch hyn yn gofyn iddo fe, ‘What is your name?’
“Clive Rowlands’, a’i sillafu fe.
“Address?’
“Bryn Awelon!’ A sillafu hwnna.
“Cwmtwrch…
“Ro’n i’n dweud wrth Clive wedyn, ‘Ro’n i’n disgwyl i’r ferch ofyn, ‘Is that Upper or Lower?!’
“Ta beth, ges i, Brian Price a Clive gar a ddreifion ni yr holl ffordd o Paris i Bordeaux wedyn.
“Roedd Clive yn dweud, ‘Bois, fi mor ddiolchgar i chi, ffantastig, o’n i’n edrych ymlaen i’r daith yma achos bob tro fi wedi bod yn Paris, dim ond gyda’r Undeb, fi jyst wedi bod ar y bws o’r maes awyr syth i’r gwesty, so sa’i wedi gweld dim ohono fe, so fi’n edrych ymlaen. Mae hwn yn ffantastig!
“Dyma ni’n mynd, a do’n ni ddim wedi cyrraedd yn bell, fi a Brian yn y ffrynt, ac oedd e’n rhochian yn barod, a welodd e ddim lot!
“Ond erbyn i ni gyrraedd y gwesty, roedd y bag wedi cyrraedd ta beth.”
‘Cymeriad a hanner’
Y tu hwnt i’r byd rygbi, roedd yn ddyn teulu ac mae Gareth Charles yn dweud bod ei berthynas â’i wraig, Margaret, “yn rywbeth sbesial iawn, iawn”.
“Roedd hi yn edrych ar ei ôl e, ac roedd e hefyd yn ei haddoli hi,” meddai.
“Mae Cymru wedi colli un o’r goreuon yn Clive, heb os nac oni bai.
“Roedd Clive yn gymeriad a hanner, ac oedd byth eisiau i ti fod ofn bo ti’n mynd i fod yn brin o unrhyw beth i ddweud ar y radio na’r teledu, achos doedd Clive byth yn brin o unrhyw beth i’w ddweud.”