Mae Clive Rowlands wedi marw’n 85 oed.
Yn enedigol o Gwmtwrch Uchaf yng Nghwm Tawe, roedd yn gyn-fenwr, capten, hyfforddwr, a rheolwr tîm rygbi Cymru, ac yn gyn-Lywydd Undeb Rygbi Cymru.
Bu’n chwarae i glybiau Pont-y-pŵl, Llanelli ac Abertawe, a daeth yn gapten ar Bont-y-pŵl yn 1962, y flwyddyn cyn iddo ennill ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Lloegr.
Daeth ei ail gap yn un cofiadwy, wrth i ohebwyr ei feirniadu am gicio o’i ddwylo gynifer o weithiau nes bod 111 o leiniau yn y gêm yn erbyn yr Alban.
Enillodd e 14 o gapiau dros ei wlad rhwng 1968 a 1974 gan arwain ei wlad ym mhob un gêm rhwng 1963 a 1965, ac fe enillodd e’r Goron Driphlyg yn 1969 a’r Gamp Lawn yn 1971.
Wrth hyfforddi Cymru, enillon nhw 18 allan o 29 o gemau, ac roedd yn rheolwr ar Gymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd pan gafodd ei gynnal am y tro cyntaf yn 1987, wrth i Gymru orffen yn drydydd.
Fe yn anad neb arall gyflwynodd y syniad o garfan ryngwladol yng Nghymru.
Roedd e’n rheolwr ar y Llewod buddugol yn Awstralia yn 1989, cyn mynd yn ei flaen i fod yn Llywydd ar Undeb Rygbi Cymru yn 1989-90.
Yn ddiweddarach, bu’n sylwebydd ar Radio Cymru.
‘Aelod brwd o deulu Cwmtwrch’
Mae Clwb Rygbi Cwmtwrch wedi talu teyrnged i Clive Rowlands fel “aelod brwd o deulu Cwmtwrch”, ac yntau’n Ymddiriedolwr, yn Aelod Oes ac yn Llywydd y clwb.
“Roedd angerdd Clive am Gwmtwrch heb ei ail,” meddai’r clwb ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Fe ymhelaethodd e ar rannau uchaf ac isaf unigryw’r pentref fel y daeth yn adnabyddus ar draws y byd.
“Roedd Clive wrth ei fodd yn gwyliau Cwmtwrch yn chwarae, ac roedd yn bresennol yng ngêm gartref olaf tymor 2022-23, bythefnos cyn y fraint o’i wylio fe ac eicon rygbi arall a’i protege o’r 1970au, Dai Morris, yn hel atgofion ac yn mwynhau peint yn ystod ein gêm gartref yn erbyn Rhigos.
“Roedd Clive yn dad balch yn gwylio’i fab Dewi yn chwarae i’r Cwm, ac roedd e hefyd yn eiriolwr cryf dros ein hadran iau yn ogystal â bod yn Dadcu balch yn gwylio Tiaan a Jacob yn chwarae i’n timau Iau, Ieuenctid a’r XV cyntaf.
“Mae ein cydymdeimlad dwysaf yn mynd allan i Margaret, Dewi a’r teulu estynedig.
“Gorffwys mewn hedd Clive, bydd colled fawr ar dy ôl gan bawb yng Nghlwb Rygbi Cwmtwrch.”