Bydd uchafbwyntiau gemau paratoadol Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yn cael eu dangos ar S4C.

Fe fydd tair gêm Cymru yng nghyfres Gemau’r Haf yn cael eu dangos yn fyw ar Prime Video.

Lloegr fydd yr ymwelwyr i Stadiwm Principality ar Awst 5, cyn i Gymru deithio i Twickenham ar gyfer yr ail brawf wythnos yn ddiweddarach.

Bydd Cymru yn croesawu De Affrica i Gaerdydd ar gyfer y gêm baratoadol olaf ar Awst 19.

Rhain fydd y tair gêm olaf cyn i ymgyrch Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn Ffrainc ddechrau ym mis Medi.

Bryd hynny bydd Cymru yn wynebu Fiji, Portiwgal, Georgia ac Awstralia yn eu grŵp cychwynnol, a bydd holl gemau Cymru o Gwpan y Byd yn fyw ar S4C.

‘Cyfnod cyffrous’

Sarra Elgan fydd yn cyflwyno’r gemau paratoadol sy’n rhan o gyfres yr haf, gyda Gareth Charles a chyn-gapten Cymru Gwyn Jones yn sylwebu.

Yn dadansoddi’r cyfan, bydd y chwaraewyr Rhys Patchell, Rhys Priestland a Sioned Harries.

Meddai Rhys Patchell: “Dwi’n edrych ymlaen at weld shwt mae’r garfan wedi paratoi dros yr haf.

“Yn amlwg mae’r gemau yn rhai pwysig gyda photensial i weld chwaraewyr dydyn ni heb weld mewn crys Cymru yn cael cyfle i ddangos eu doniau nhw.

“Hefyd ni am gael y cipolwg cyntaf ar y ffordd mae gêm Warren Gatland a thîm Cymru wedi datblygu ers y chwe gwlad.

“Mae’n gyfnod cyffrous, dyw’r gemau hyn ddim yn rhai hawdd o bell ffordd sydd eto yn beth da achos bydd Cymru wedi paratoi yn drylwyr ar gyfer Cwpan y Byd. Mae’r gemau hyn yn achlysur mawr.”

Ychwanegodd Geraint Evans, cyfarwyddwr strategaeth, cynnwys a chyhoeddi S4C: “Cyfres yr Haf yw dechrau’r daith i Ffrainc i garfan Cymru ac i ni ar S4C, ac rydyn ni’n falch iawn y bydd ein partneriaeth gyda Amazon yn caniatáu i ni ddod ag uchafbwyntiau o’r ddwy gêm yn erbyn Lloegr a phencampwyr y byd, De’r Affrig.

“Byddwn ni’n dangos holl gemau Cymru yn fyw yng Nghwpan y Byd, felly gall y gwylwyr edrych ymlaen at dri mis o rygbi rhyngwladol o’r safon uchaf ar S4C.”