Mae Luis Reece a Harry Came, dau fatiwr Swydd Derby, wedi torri’r record am y bartneriaeth agoriadol fwyaf erioed i’r sir, wrth i’w gêm Bencampwriaeth yn erbyn Morgannwg yn Derby orffen yn gyfartal.
Adeiladon nhw bartneriaeth o 360 ar y diwrnod olaf, wrth i’r ddau ohonyn nhw gael eu sgôr gorau erioed – 201 i Reece oddi ar 338 o belenni, a 141 i Came oddi ar 336 o belenni.
Roedd y Saeson 157 o rediadau ar y blaen ar ddiwedd yr ornest – er eu bod nhw 125 o rediadau ar ei hôl hi ar ddechrau’r dydd.
Bowliodd naw o chwaraewyr Morgannwg yn y batiad, wrth i’r sir orffen yr ornest gyda 13 o bwyntiau yn eu hymgais i ennill dyrchafiad.
Torrodd y ddau fatiwr record arall, wrth fod y drydedd partneriaeth yn hanes y sir i adeiladu partneriaeth dros gant yn y naill fatiad a’r llall.
Daeth canred Reece oddi ar 177 o belenni – yr ugeinfed chwaraewr erioed i gael dau ganred mewn gornest i’r sir.
Gallai’r troellwr coes Mitchell Swepson fod wedi cipio’i wiced cyn cinio, serch hynny, wrth apelio am goes o flaen y wiced, ond cafodd ei wrthod.
Roedd y Saeson ddeunaw rhediad ar ei hôl hi erbyn amser cinio, a chyrhaeddodd Came ei ganred gydag ergyd am bedwar, ei ddeuddegfed yn y batiad.
Ond roedden nhw ar y blaen o 94 erbyn amser te, wrth i’r pâr lygadu record Reece a Billy Godleman, 333 yn erbyn Swydd Northampton yn 2017.
Roedd Morgannwg eisoes wedi rhoi’r ffidil yn y to erbyn hynny, gan droi at eu wicedwr Chris Cooke fel bowliwr, gyda Colin Ingram yn cadw wiced, ac fe dorrodd y batwyr y record cyn i Reece gyrraedd ei ganred dwbwl gydag ergyd am bedwar cyn i’r ornest ddod i ben.