Mae Pencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn yn dychwelyd i Glwb Golff Brenhinol Porthcawl am y tro cyntaf ers chwe blynedd y penwythnos hwn.
Bydd rhai o enwogion y byd golff yn cystadlu wrth i Gymru gynnal y gystadleuaeth am y trydydd tro.
Mae’r lleoliad, sy’n cynnig golygfeydd godidog ar draws Bae Abertawe i Benrhyn Gŵyr ac sydd wir yn profi sgiliau golff, wedi cynnal sawl pencampwriaeth fawr, gan gynnwys Yr Amatur a Chwpan Walker.
Bydd hefyd yn cynnal Pencampwriaeth Agored Menywod AIG yn 2025, un o’r digwyddiadau mwyaf ym myd chwaraeon menywod, a dyma fydd y tro cyntaf i’r digwyddiad hwnnw gael ei gynnal yng Nghymru.
Cafodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, gyfle i ymweld â Chlwb Brenhinol Porthcawl ar ddiwrnod cynta’r digwyddiad ddydd Iau (Gorffennaf 27).
“Mae Clwb Golff Brenhinol Porthcawl yn un o gyrsiau cyswllt mwyaf blaenllaw’r byd ac yn un o nifer o gyrsiau gwych yma yng Nghymru sy’n aros i groesawu golffwyr o bob safon ac o bob cwr o’r byd,” meddai.
“Yn ogystal â’r hwb economaidd y bydd y digwyddiad yn ei ddarparu i’r ardal, rydym hefyd yn edrych ymlaen at groesawu llawer o’r chwaraewyr a’r gwylwyr yn ôl i Gymru eto – i weld mwy o’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig.”
‘Prawf gwirioneddol’
Bydd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth yn Llywodraeth Cymru, yn mynychu digwyddiad cyflwyno’r tlws ddydd Sul.
“Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu gweithio gyda’r R&A a grŵp Cylchdaith Golff Ewrop i ddod â’r digwyddiad mawreddog hwn i Gymru – ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r chwaraewyr a’r gwylwyr yn ôl i Gymru am y tro cyntaf ers 2017,” meddai.
“Mae’n wych croesawu cymaint o enwogion y byd golff i Gymru eto ac rwy’n siŵr y bydd y cwrs yn darparu prawf gwirioneddol ar gyfer golffwyr hŷn gorau’r byd.
“Nid yw’n ymwneud â Phorthcawl yn unig, gyda digwyddiadau cymhwyso yn y Pîl, Cynffig, Southerndown, Machynys ac Ashburnham.”
Bernhard Langer sydd wedi ennill y ddau ddigwyddiad diwethaf yng Nghymru.
Yn 2014, y tro cyntaf i’r digwyddiad ymweld â Chymru, fe wnaeth yr Almaenwr sydd wedi ennill y Bencampwriaeth Meistri golff ddwywaith, greu hanes drwy ymestyn y bwlch i 13 ergyd wrth iddo orffen 18 ergyd yn well na’r safon.
Fodd bynnag, bydd yn wynebu cystadleuaeth gref gan Darren Clarke, Padraig Harrington, Miguel Angel Jiminez, Ian Woosnam, ac enillydd 2021 Stephen Dodd, ymhlith eraill.