Mae Eddie Byrom, batiwr tîm criced Morgannwg, wedi ymestyn ei gytundeb gyda’r sir am ddwy flynedd arall.

Bydd y cytundeb newydd yn ei gadw gyda’r sir tan o leiaf 2025.

Ymunodd y batiwr llaw chwith 26 oed â’r sir Gymreig ar fenthyg o Wlad yr Haf yn niwedd 2021, cyn llofnodi cytundeb dwy flynedd parhaol ar ddiwedd y tymor hwnnw.

Mae e wedi chwarae 31 o weithiau i Forgannwg ers hynny, gan sgorio 1,216 o rediadau ar draws pob fformat.

Mae’r gŵr sy’n enedigol o Zimbabwe wedi sgorio saith hanner canred a dau ganred mewn 16 o gemau dosbarth cyntaf.

Daeth ei ganred cyntaf yn 2022, gyda sgôr o 176 yn erbyn Sussex wrth adeiladu record o bartneriaeth gyda Colin Ingram – does neb wedi adeiladu partneriaeth ail wiced fwy na hynny yn hanes y sir.

‘Y potensial i barhau i wella’

“Mae Eddie wedi bod yn ychwanegiad gwych i’r garfan ar y cae ac oddi arno, ers ymuno â ni ychydig flynyddoedd yn ôl,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.

“Mae ganddo fe’r potensial i barhau i wella ac i symud i’r lefel nesaf, ac rydym wrth ein boddau o’i gael e’n aros yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf.”

Dywed Eddie Byrom ei fod e “wedi cyffroi” o gael llofnodi’r cytundeb newydd.

“Dw i wedi bod wrth fy modd yn ystod fy nghyfnod gyda’r clwb hyd yn hyn, a dw i’n edrych ymlaen yn fawr at y ddwy flynedd nesaf,” meddai.

“Dw i wrth fy modd yn batio yma, mae’n lle gwych i fatio, a dw i wrth fy modd gyda fy rôl ar frig y rhestr.

“Gobeithio bod gyda fi lawer sgôr mawr i ddod.”