Fe fydd Caerdydd yn cael caeau criced newydd o ganlyniad i brosiect sy’n ymwneud â chystadleuaeth y Can Pelen.

Nod ymgyrch ‘Everyone In’ yw sefydlu 100 o gaeau dros y tair blynedd nesaf yn y dinasoedd sydd wedi’u cynrychioli yn y gystadleuaeth ddinesig, a hynny fel rhan o ymgyrch ehangach i sicrhau ffordd gytbwys o fyw drwy annog pobol i gadw’n heini a chwarae criced.

Cafodd ardaloedd addas eu hadnabod drwy fesur maint y boblogaeth, a cheisio cyrraedd ardaloedd sydd wedi bod heb gyfleusterau hyd yn hyn neu mae eu cyfleusterau wedi dirywio dros gyfnod o amser.

Bydd y caeau’n cael eu cynnal a’u cadw gan y cyngor lleol, a bydd 35 ohonyn nhw’n cael eu sefydlu eleni.

KP Snacks sy’n noddi’r fenter, gan fuddsoddi mewn cymunedau lleol er mwyn annog pobol i fyw’n iachach a chadw’n heini, sy’n rhan o raglen fusnes y cwmni ac sy’n cyd-fynd â gwerthoedd Bwrdd Criced Cymru a Lloegr wrth geisio tyfu’r gamp ar lawr gwlad.

‘Y galw’n fwy na’r cyflenwad’

Yn ôl Tony Singh, Prif Swyddog Masnachol Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, mae’r galw am gyfleusterau’n fwy na’r cyflenwad ar hyn o bryd mewn ardaloedd trefol.

Dywed fod sefydlu caeau di-laswellt “yn un ffordd rydyn ni’n buddsoddi er mwyn ateb y galw hwn, gan greu cyfleoedd newydd i gymunedau lleol gael mynediad at gyfleusterau criced o safon mewn parciau a chaeau chwarae lle maen nhw’n byw”.

“Mae’r cyfleusterau newydd hyn yn cael mwy o bobol yn heini, boed hynny gyda’u clybiau neu ysgolion lleol neu drwy All Stars a Dynamos, ynghyd â chefnogi twf sydyn criced i ferched a menywod.”

Y caeau cyntaf yng Nghaerdydd i gael buddsoddiad fydd caeau Llandaf, Y Gored Ddu, Pontcana a Sevenoaks.