Mae rhanbarth rygbi’r Dreigiau wedi arwyddo Rodrigo Martinez, prop yr Ariannin.

Roedd disgwyl i’r Archentwr, sy’n chwarae fel prop pen rhydd, ymuno â Gwyddelod Llundain cyn iddyn nhw fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Daw hynny ar ôl iddyn nhw golli eu statws fel tîm Uwch Gynghrair Lloegr, wrth i’r Dreigiau gamu i’r adwy yn fuan wedyn.

Enilodd ei gap cyntaf dros ei wlad yn 2021, gan ymuno â’r Picwns yn ddiweddarach, ond cafodd e anaf yn niwedd tymor 2021-22.

Dychwelodd i’r tîm ar ddechrau tymor 2022-23, ond fe ddychwelodd i’w famwlad ar ôl i’r clwb hwnnw fynd i ddwylo’r gweinyddwyr hefyd, a bu’n chwarae i’r Pampas ers mis Mawrth.

Mae’r Dreigiau bellach wedi denu pump o chwaraewyr cyn dechrau’r tymor newydd – Cai Evans, Dan Lydiate, Dane Blacker a Corey Baldwin yw’r pedwar arall.