Bydd Brennan Johnson yn dychwelyd i garfan bêl-droed Cymru i herio Armenia a Thwrci yng ngemau rhagbrofol Ewro 2024.

Byddan nhw’n teithio i Yerevan i herio Armenia ar Dachwedd 18, cyn croesawu Twrci i Gaerdydd dridiau’n ddiweddarach (nos Fawrth, Tachwedd 21).

Doedd yr ymosodwr Johnson ddim ar gael ar gyfer gemau mis Hydref oherwydd anaf, ac roedd Joe Morrell wedi’i wahardd ar gyfer y ddwy gêm, ac mae Aaron Ramsey allan o hyd ag anaf.

Ond mae Niall Huggins wedi’i ddewis yn y garfan am y tro cyntaf, ac yntau wedi cynrychioli tîm dan 21 Cymru yn 2021.

Byddai dwy fuddugoliaeth yn selio lle Cymru yn Ewro 2024 yn yr Almaen haf nesaf, a bydd tîm Rob Page yn gobeithio adeiladu ar y fuddugoliaeth o 2-1 yn erbyn Croatia.

Mae Twrci eisoes wedi cymhwyso, ond mae Cymru, Croatia ac Armenia yn brwydro am yr ail le yn eu grŵp.

Carfan Cymru

W Hennessey (Nottingham Forest), D Ward (Caerlŷr), T King (Wolves), B Davies (Spurs), J Rodon (Leeds, ar fenthyg o Spurs), T Lockyer (Luton), C Mepham (Bournemouth), B Cabango (Abertawe), N Williams (Nottingham Forest), C Roberts (Burnley), N Huggins (Sunderland), E Ampadu (Leeds), J Sheehan (Bolton), J James (Birmingham), J Morrell (Portsmouth), H Wilson (Fulham), D Brooks (Bournemouth), D James (Leeds), N Broadhead (Ipswich), L Cullen (Abertawe), B Johnson (Spurs), K Moore (Bournemouth), T Bradshaw (Millwall)