Y Cymro Chris Jenkins yw Llywydd newydd Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad.

Fe wnaeth e gynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn 1986, cyn mynd yn ei flaen i fod yn Brif Weithredwr Gemau’r Gymanwlad Cymru am 16 o flynyddoedd.

Cafodd ei benodiad ei gadarnhau yn ystod cyfarfod o’r Cynulliad Cyffredinol yn Singapôr.

Bu hefyd yn Is-lywydd y Ffederasiwn am gyfnod, ac yn gadeirydd Pwyllgor Datblygu’r Ffederasiwn.

Ar hyn o bryd, mae e wrthi’n astudio ar gyfer Doethuriaeth wrth ymchwilio i fodel cynaliadwy ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yn y dyfodol.

Enillodd e 64 allan o 74 o bleidleisiau er mwyn cael ei ethol, gan drechu Kereyn Smith o Seland Newydd.

Blaenoriaethau

Wrth ymgyrchu ar gyfer y rôl, fe wnaeth Chris Jenkins addo blaenoriaethu:

  • trawsnewid Gemau’r Gymanwlad fel eu bod nhw’n gynaliadwy i’r dinasoedd sy’n eu cynnal
  • datblygu a chryfhau Cymdeithasau Gemau’r Gymanwlad, gan godi eu proffil
  • rhoi llwyfan i bob llais, gan sicrhau bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal ym mhob rhan o’r Gymanwlad

Dywed Chris Jenkins ei fod yn “anrhydeddus a gostyngedig iawn” yn dilyn ei benodiad.

“Hoffwn ddiolch i bawb ar draws y mudiad sydd wedi rhoi eu ffydd ynof fi,” meddai.

“Hoffwn dalu teyrnged i Kereyn hefyd am ei gwasanaeth ymroddedig a’i blynyddoedd niferus o gyfeillgarwch drwy chwaraeon dw i’n gwybod y bydd yn parhau ymhell i’r dyfodol.

“Fel mudiad, byddwn ni’n esblygu ac yn arloesi er mwyn annog mwy o ddinasoedd i gynnal y Gemau hyfryd hyn.

“Dw i’n ymroddedig i reoli newid, gweithredu ar addewidion, a gwneud i bethau ddigwydd.

“Wrth gydweithio, byddwn ni’n sicrhau dyfodol cynaliadwy ac ysbrydoledig i deulu Gemau’r Gymanwlad.”