Mae tîm rygbi merched yr Urdd yn paratoi i herio goreuon y byd yng nghystadleuaeth ‘Emirates Dubai 7s’.

Ar ddiwedd Tachwedd bydd 12 o lysgenhadon ifanc yr Urdd yn teithio dros 4,000 o filltiroedd i Anialwch Arabia i gystadlu yn un o gystadlaethau rygbi 7 bob ochr mwyaf y byd.

Yn ogystal â herio timau 7 bob ochr o bob cwr o’r byd, bydd tîm yr Urdd yn cymryd y cyfle i rannu iaith a diwylliant Cymru gyda phobl ifanc lleol, ac yn cynnal sesiynau hyfforddi rygbi.

Tîm rygbi merched yr Urdd oedd y tîm cyntaf o wledydd y Deyrnas Unedig i gymryd rhan yn y ‘World School Sevens’ yn Seland Newydd y llynedd.

‘Rhannu diwylliant Cymru gyda’r byd’

Dywed yr Urdd ei bod yn falch o roi cyfle i garfan newydd gystadlu mewn twrnamaint rhyngwladol unwaith eto a pharhau gyda gwaith y mudiad o ymgysylltu a rhannu diwylliant Cymru gyda’r byd. Mae’r twrnamaint yn agored i dimau o ferched a bechgyn fel ei gilydd, ac yn gyfle i wledydd arddangos eu doniau rygbi ifanc ar lwyfan rhyngwladol, meddai’r Urdd.

“Braint yw cael merched ifanc yr Urdd yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Emirates Dubai 7s,” meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.

“Hoffwn ddiolch i gynllun Taith am ariannu y cyfleoedd i ni ymgysylltu gyda chymunedau ac ysgolion Dubai fel rhan o’r ymweliad. Diolch i gefnogaeth ariannol Taith, mae llysgenhadon ifanc y mudiad yn ennill profiadau bythgofiadwy a chyd-rannu iaith a diwylliannau Cymru yn rhyngwladol.”

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal rhwng 1 a 3 Rhagfyr yn y ‘Sevens Stadium’, Dubai.