Dydy Cymru erioed wedi curo Armenia, ond dyna fydd gofyn i dîm Rob Page ei wneud ddydd Sadwrn (Tachwedd 18) i fod gam yn nes at Ewro 2024.

Bydd y tîm pêl-droed yn gobeithio am well canlyniad yn Yerevan na’r golled o 4-2 yn eu herbyn yng Nghaerdydd dros yr haf.

Wedi ennill y ddwy gêm ddiwethaf yng ngemau rhagbrofol Pencampwriaeth Ewro 2024 – 2-0 yn erbyn Latfia a 2-1 yn erbyn Croatia – mae Cymru’n brwydro am yr ail safle yn eu grŵp.

Mae Twrci eisoes wedi cymhwyso, ond gall Cymru, Croatia ac Armenia orffen yn yr ail safle yn Grŵp D ac ennill eu lle ymysg timau gorau Ewrop yn yr Almaen flwyddyn nesaf.

Ennill yn erbyn Armenia fory ac yn erbyn Twrci nos Fawrth (Tachwedd 21) yng Nghaerdydd, a bydd Cymru drwodd.

Colli unrhyw un o’r gemau neu gael gêm gyfartal, a bydd rhaid dibynnu ar ganlyniadau gemau eraill y grŵp neu’r gemau ail gyfle y flwyddyn nesaf.

Kieffer Moore yn cael cerdyn coch yn ystod y gêm yn erbyn Armenia ym mis Mehefin

‘Gêm anodd ond cyfle da’

Mae Dylan Ebenezer, cyflwynydd Sgorio sydd draw yn Armenia, yn fwy hyderus nawr nag yr oedd fis diwethaf cyn y fuddugoliaeth yn erbyn Croatia.

“Mae’r canlyniadau yn erbyn Croatia fel eu bod nhw wedi newid llawer,” meddai Dylan Ebenezer wrth golwg360.

“Maen nhw fwy hyderus. Mae hi am fod yn gêm anodd, ond dw i’n credu bod cyfle da gyda nhw i ennill yn erbyn Armenia.

“Mae’n syndod sut mae un canlyniad yn gallu newid pethau. Gobeithio bod yr hyder yn ôl ar ôl ennill yn erbyn Croatia.”

‘Hyder yn rhywbeth bregus’

Faint o hwb fyddai’r buddugoliaethau diwethaf wedi’i rhoi i’r tîm, felly?

“Dw i’n credu bod e’n eithaf arwyddocaol,” meddai Dylan Ebenezer.

“Mae hyder yn rhywbeth bregus iawn. Pan maen nhw’n colli hyder mae o’n effeithio ar unrhyw dim pêl- droed.

“Roedd curo Latvia yn help. Roedd ennill gartref yn erbyn Croatia yn teimlo fel ei fod wedi gwneud gwahaniaeth mawr.

“Os ydych yn edrych ar y chwaraewyr, pan maen nhw’n siarad maen nhw’n swnio’n benderfynol.

“Maen nhw’n gwybod beth sydd angen ei wneud nawr. Roedd hi’n teimlo fel noson bwysig iawn pan enillodd y tîm yn erbyn Croatia.”

Arbediad gan Danny Ward yn erbyn Croatia fis Hydref 2023

‘Cadw pethau’n syml’

Ers y gêm ddiwethaf honno, mae Brennan Johnson wedi dychwelyd i’r garfan wedi anaf, ac mae’r chwaraewr canol cae Joe Morell yn ôl wedi gwaharddiad. Mae’r capten Aaron Ramsey allan o hyd gydag anaf.

Un o’r pynciau trafod wedi’r gêm yn erbyn Croatia, a gêm gyfeillgar yn erbyn De Corea ychydig ddyddiau ynghynt, oedd y chwarae yng nghanol cae ar bartneriaeth rhwng Ethan Ampadu a Jordan James, y gŵr 19 oed enillodd ei gap cyntaf i’r tîm yn ystod y gêm gyfartal yn erbyn Croatia ym mis Mawrth eleni.

Mae cwestiynau wedi bod am siâp Cymru yng nghanol cae ers ymddeoliad Joe Allen, ac mae Dylan Ebenezer yn awyddus i weld Rob Page yn cadw at yr un drefn ar gyfer y gemau hyn.

“Dw i’n credu, pan wnaeth Cymru golli gartref yn erbyn Armenia, mai’r broblem oedd eu bod nhw wedi newid y tîm gymaint,” meddai.

“Roedden nhw’n ceisio bod yn fwy ymosodol, sy’n grêt, ond y ffordd mae Cymru’n chwarae, maen nhw’n edrych yn gyfforddus iawn pan maen nhw’n cadw’r un patrwm.

“Mae Jordan James wedi setlo mor dda. Mae o mor ifanc ac mae o’n edrych fel bod o wedi bod yna erioed.

“Dydyn ddim yn disgwyl llawer o newidiadau. Gobeithio ddim ta beth.

“Cadw pethau’n syml, ennill o gôl i ddim, diolch yn fawr iawn ac adre!”