Mae Marnus Labuschagne, cricedwr tramor Morgannwg, wedi’i enwi’n faeswr gorau Cwpan y Byd yn India.

Fe wnaeth ei wlad, Awstralia, guro’r tîm cartref i godi’r tlws ddoe (dydd Sul, Tachwedd 19).

Mae’r Cyngor Criced Rhyngwladol (ICC) yn gwobrwyo’r batwyr, bowlwyr a maeswyr gorau ar ddiwedd y twrnament, ac maen nhw wedi cyhoeddi’r canlyniadau.

Roedd gan Labuschagne gyfradd faesu o 82.66 ar ddiwedd y twrnament.

Cipiodd e wyth o ddaliadau – tri yn llai na Daryl Mitchell o Seland Newydd, oedd wedi gorffen ar y brig.

Fe wnaeth yr Awstraliad atal pymtheg o rediadau, rhedeg un batiwr allan, cynorthwyo i redeg tri batiwr arall allan (y nifer fwyaf gan unrhyw faeswr), ac fe gafodd e dri thafliad allweddol yn ystod y gystadleuaeth hefyd.

Er gwaetha’i berfformiadau, serch hynny, dydy e ddim wedi’i enwi yn Nhîm y Twrnament.

Cafodd un o gyn-chwaraewyr Morgannwg, Shubman Gill o India, ei enwi’n fatiwr gorau’r gystadleuaeth.