Bydd tîm pêl-droed Cymru’n herio Twrci yng Nghaerdydd heno (nos Fawrth, Tachwedd 21), gyda’u gobeithion o gyrraedd Ewro 2024 yn y fantol.
Mae tynged tîm Rob Page allan o’u dwylo nhw eu hunain eisoes, a bydd yn rhaid iddyn nhw ddibynnu ar ganlyniad Croatia hefyd.
Daw hyn yn dilyn gêm gyfartal 1-1 yn Armenia nos Sadwrn (Tachwedd 18).
Bydd yn rhaid i Gymru guro Twrci, sydd eisoes wedi cymhwyso, a gobeithio y bydd Croatia yn colli pwyntiau gartref yn erbyn Armenia.
Ond pe bai’r canlyniadau’n mynd yn erbyn Cymru, fe fydd ganddyn nhw’r gemau ail gyfle hefyd.
Ymgyrch gymysg
Fe fu’n ymgyrch ddigon cymysg i dîm Rob Page hyd yn hyn, ar ôl i Gymru lwyddo i gyrraedd tri thwrnament yn olynol – dwy Ewros a Chwpan y Byd.
Ar ôl gêm gyfartal yn erbyn Croatia a buddugoliaeth dros Latfia, roedd hi’n edrych fel pe bai tro ar fyd ar ddod i Gymru ar ôl colli yn erbyn Armenia a Thwrci dros yr haf.
Cawson nhw fuddugoliaethau yn erbyn Latfia a Chroatia fis diwethaf i gadw eu gobeithion yn fyw, ond mae’r gêm gyfartal yn Yerevan dros y penwythnos yn golygu mai cael a chael fydd hi unwaith eto.
Y gwrthwynebwyr
Mae Twrci eisoes wedi cymhwyso ar gyfer Ewro 2024 ar ôl curo Latfia.
Dim ond un pwynt sydd ei angen arnyn nhw i orffen ar frig Grŵp D.
Mae ganddyn nhw reolwr newydd, Vincenzo Montella, ers iddyn nhw herio Cymru ddiwethaf (buddugoliaeth o 2-0 yn erbyn deg dyn Cymru).
Daw hynny ar ôl i Stefan Kuntz gael ei ddiswyddo yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Armenia.
Mae Montella wedi ennill ei dair gêm wrth y llyw hyd yn hyn.
Ond mae Twrci wedi cael ergyd cyn y gêm, gyda’r newyddion nad yw eu capten
Turkey arrive in Cardiff without their captain, Inter Milan defender Hakan Çalhanoğlu ar gael oherwydd salwch, tra bod gan y chwaraewr ifanc addawol Arda Güler anaf.
Maen nhw eisoes wedi curo’r Almaen mewn gêm gyfeillgar yr wythnos hon.