Bydd yn rhaid i dîm pêl-droed Cymru ddibynnu ar y gemau ail gyfle ym mis Mawrth er mwyn cyrraedd Ewro 2024 – eu trydedd Ewros yn olynol.
Wcráin, y Ffindir neu Wlad yr Iâ fydd eu gwrthwynebwyr.
Aeth tîm Rob Page i mewn i’r gêm yn erbyn Twrci heno (nos Fawrth, Tachwedd 21) yn gwybod fod yn rhaid ennill, gyda’u gwrthwynebwyr eisoes wedi cymhwyso, ond bu’n rhaid bodloni ar gêm gyfartal 1-1.
Gyda geiriau ‘Can’t Take My Eyes Off You’ yn atseinio yn dilyn perfformiad Mike Peters cyn y gêm, roedd gan Gymru un llygad ar ganlyniad Croatia wrth iddyn nhw obeithio y bydden nhw’n colli pwyntiau gartref yn erbyn Armenia.
Ond gyda’r rheiny wedi cipio’r triphwynt, bydd yn rhaid i Gymru aros ychydig yn hirach i sicrhau eu lle yn y twrnament.
Hanner cyntaf
Roedden nhw o dan rywfaint o anfantais cyn y gic gyntaf, gyda’r capten Aaron Ramsey wedi’i anafu a’r amddiffynnwr canol Chris Mepham wedi’i wahardd, ac roedd tri newid yn y tîm wrth i Brennan Johnson, Nathan Broadhead a Tom Lockyer – sydd heb chwarae yn y crys coch ers mis Medi 2021 – ddechrau’r gêm.
Dechrau digon disglair gafodd tîm Rob Page, wrth i Broadhead fanteisio ar gamgymeriad yn amddiffyn Twrci ar ôl tair munud, gyda’i ergyd gynnar yn mynd heibio’r postyn.
Bedair munud yn ddiweddarach, roedd Cymru’n dathlu wrth i Neco Williams fentro taro’r un ergyd, a llwyddo’r tro hwn i osod y bêl yn daclus yng nghornel isa’r rhwyd i ochr chwith y golwr Uğurcan Çakır.
Gyda’r gêm yn dechrau poethi yn oerfel Stadiwm Dinas Caerdydd, daeth gwaedd am gic o’r smotyn pan gafodd Harry Wilson ei lorio ar ymyl y cwrt cosbi ar ôl 25 munud, a gwelodd Johnson gerdyn melyn yn sgil y ffrae.
Cafodd Twrci eu gorfodi i gyflwyno dau eilydd ar ôl hanner awr, wrth i’r golwr orfod gadael y cae ag anaf, gyda golwr Manchester United Altay Bayındır yn cymryd ei le, a daeth Yusuf Yazıcı i’r cae yn lle Abdülkadir Ömür wrth iddyn nhw newid tactegau wrth geisio unioni’r sgôr.
Gyda Chymru’n dominyddu’r meddiant, daeth cyfle prin i Dwrci bum munud cyn yr egwyl, wrth i Kerem Aktürkoğlu ergydio’n uchel dros y trawst, cyn i Gymru wrthymosod a Johnson yn troi ar ei sawdl gan orfodi Bayındır i wneud arbediad.
Roedd Cymru hanner ffordd tuag at yr hyn roedden nhw’n anelu ato, ond roedd Croatia ar y blaen o 1-0 yn erbyn Armenia, sydd heb golli yn eu dwy gêm yn erbyn Cymru yn yr ymgyrch.
Hanner amser: Cymru 1 Twrci 0
Dechreuodd tîm Rob Page yr ail hanner yr un mor ddisglair â’r hanner cyntaf, wrth i Wilson a Johnson gyfuno ar yr ochr dde i orfodi’r golwr i wneud arbediad yn y munudau agoriadol.
Parhau wnaeth y perygl, a daeth gwaedd arall am gic o’r smotyn am drosedd gan Yazıcı ar Wilson, cyn i Danny Ward orfod gwneud arbediad prin oddi ar ben Samet Akaydin ben draw’r cae funudau’n ddiweddarach.
Daeth David Brooks i’r cae yn eilydd ychydig ar ôl awr, a’i weithred gyntaf oedd atal ergyd fawr gan Johnson pan oedd y momentwm yn gryf o blaid Cymru.
Er gwaetha’r momentwm, cafodd y capten Ben Davies ei gosbi am lorio Kenan Yıldız yn y cwrt ar ôl 70 munud, er bod lluniau’r teledu’n awgrymu ei fod yn benderfyniad hallt gan y dyfarnwr.
Roedd hi’n 1-1 wrth i Yusuf Yazıcı ei tharo hi i gefn y rhwyd i’w gwneud hi’n 1-1.
A hwythau ar y droed flaen, roedd Twrci’n chwilio am y gôl fuddugol yn y deg munud olaf wrth i Gymru barhau i ymosod hefyd.
Rhwydodd Johnson i Gymru ar ôl 83 munud, ond roedd camsefyll yn y symudiad er mawr siom i’r tîm cartref, oedd wedi penderfynu dod â Kieffer Moore i’r cae wrth daflu’r dis am y tro olaf.
Doedd fawr o ots am y canlyniad yn y pen draw beth bynnag, wrth i Groatia guro Armenia o 1-0 i selio tynged Cymru, ond gyda’r ddau dîm wedi brwydro’n galed, roedd eiliadau tanllyd ar y chwiban olaf gyda ffrwgwd yn arwain at sawl cerdyn melyn i’r ddau dîm.