Mae Rob Page yn teimlo y gallai tîm pêl-droed Cymru fod wedi ennill y gêm ragbrofol Ewro 2024 yn erbyn Twrci yng Nghaerdydd neithiwr (nos Fawrth, Tachwedd 22) pe bai ganddyn nhw ddyfarnwr gwahanol.

Aeth Cymru ar y blaen yn y seithfed munud, diolch i gôl Neco Williams, ond fe wnaeth Twrci unioni’r sgôr ar ôl 69 munud.

Fe wnaeth y dyfarnwr Matej Jug ennyn dicter yr hyfforddwyr, chwaraewyr a’r dorf o ganlyniad i sawl penderfyniad dadleuol, gan gynnwys y gic o’r smotyn yn erbyn Cymru am y drosedd honedig gan Ben Davies oedd yn ymddangos yn benderfyniad hallt.

Roedd Cymru wedi bod ar y droed flaen pan gafodd y capten ei gosbi am lorio Kenan Yıldız, gyda Yazıcı yn sgorio o’r smotyn.

Ond dylai Cymru fod wedi cael tair yn yr hanner cyntaf, am droseddau ar Harry Wilson a Brennan Johnson, er bod y dyfarnwr wedi troi at VAR hefyd.

Bydd Cymru’n darganfod pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn y gemau ail gyfle ddydd Iau (Tachwedd 23), pan fydd yr enwau’n cael eu tynnu o’r het.

Y gwrthwynebwyr posib yw Wcráin, Gwlad yr Iâ neu’r Ffindir.

‘Rhwystredig’

“Dw i’n credu,” meddai Rob Page pan gafodd ei holi a fyddai Cymru wedi ennill gyda dyfarnwr gwahanol.

“Rhaid i fi fod yn ofalus beth dw i’n ei ddweud.

“Roedd yn gic gosb gadarn ar Brennan, un o’r rhai amlycaf dw i wedi’u gweld, ac rydyn ni wedi ildio’r gic o’r smotyn fwyaf simsan dw i erioed wedi’i gweld.

“Mae hi mor rwystredig ar y lefel yma.

“Alla i ddim cael fy mhen rownd y peth.

“Ond y perfformiad? Ro’n i’n meddwl bod y bois yn wych.

“Roedden ni’n mynd am y fuddugoliaeth, a gallai pawb weld hynny.”

Cymru’n gorfod dibynnu ar y gemau ail gyfle i gyrraedd Ewro 2024

Alun Rhys Chivers

Doedd hi ddim yn bosib i dîm Rob Page gymhwyso’n awtomatig wrth i Groatia guro Armenia