Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cyhoeddi trefn eu gemau ar gyfer tymor 2024.

Bydd eu hymgyrch yn y Bencampwriaeth yn dechrau gyda thaith i Lord’s i herio Middlesex (Ebrill 5-8), cyn croesawu Swydd Derby i Gaerdydd ar gyfer gêm gartref gynta’r tymor (Ebrill 12-15).

Gemau ugain pelawd

Bydd pum gêm pedwar diwrnod arall cyn diwedd mis Mai, cyn i’r sir Gymreig droi eu sylw at y gemau ugain pelawd yn y Vitality Blast, fydd yn cael ei chynnal rhwng Mai a dechrau mis Gorffennaf.

Bydd yr ymgyrch honno’n dechrau gartref yn erbyn Surrey ar Fai 31, gyda saith gêm yng Nghaerdydd – tair ohonyn nhw ar nos Wener – tra bydd dwy gêm ddydd Sul a dwy nos Iau.

Bydd gemau mawr gartref yn erbyn eu cymdogion agosaf – Swydd Gaerloyw ar Fehefin 20 a Gwlad yr Haf ar Orffennaf 19.

Ar ddiwrnod y gêm yn erbyn Hampshire ar Fehefin 13, bydd tîm merched Western Storm yn herio Thunder, tîm o Fanceinion, yng Nghaerdydd hefyd.

Bydd Western Storm yn chwarae gêm yn Nhlws Rachel Heyhoe Flint ar Ebrill 20.

Gemau 50 pelawd

Bydd Cwpan Metro Bank, y gystadleuaeth 50 pelawd, yn dilyn gyda’r gêm gartref gyntaf yn erbyn Swydd Gaerloyw ar Orffennaf 25.

Bydd dwy gêm yng Nghastell-nedd eto eleni – yn erbyn Swydd Nottingham (Gorffennaf 31) a Sussex (Awst 2).

Bydd y gemau grŵp yn dod i ben yn erbyn Swydd Efrog yng Nghaerdydd ar Awst 15.

Diweddglo’r Bencampwriaeth

Wrth i’r tymor dynnu tua’i derfyn, bydd Morgannwg yn cwblhau eu gemau yn y Bencampwriaeth wrth iddyn nhw herio Swydd Gaerloyw (Medi 26-29) – yr olaf o dair gêm ar draws pob fformat yn eu herbyn nhw.

Hefyd ym mis Medi, bydd rowndiau terfynol y cystadlaethau ugain a 50 pelawd yn cael eu cynnal.

“Mae’n edrych fel tymor arall o griced domestig llawn cyffro, gyda digon i’n haelodau a’n cefnogwyr edrych ymlaen ato,” meddai Dan Cherry, Pennaeth Gweithrediadau Clwb Criced Morgannwg.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ein gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Siroedd, fydd gobeithio yn ein rhoi ni ar ben ffordd ar gyfer tymor positif, tra bod gennym ni amserlen gyffrous iawn yn y Vitality Blast, gyda gemau cyffrous drwyddi draw.

“Mae’n sicr o fod yn dymor cyffrous arall, ac allwn ni ddim aros i gael dechrau.”

Ewch i’r amserlen lawn.