Bydd tîm pêl-droed Cymru’n herio’r Ffindir yn rownd gyn-derfynol gemau ail gyfle Ewro 2024.
Bydd y gêm un cymal yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar Fawrth 21.
Pe baen nhw’n ennill y gêm honno, byddan nhw’n herio Gwlad Pwyl neu Estonia yn y rownd derfynol ar Fawrth 26.
Collodd Cymru gyfle i gymhwyso’n awtomatig yn dilyn eu gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Twrci yr wythnos hon, ar ôl i Groatia guro Armenia o 1-0.
Cymhwysodd Cymru ar gyfer Cwpan y Byd 2022 yn Qatar drwy’r gemau ail gyfle, wrth iddyn nhw guro’r Alban ac Wcráin.
Ymateb
“Rydyn ni’n bles ar y cyfan,” meddai’r rheolwr Rob Page wrth ymateb i’r newyddion.
“Mae’n bwysig iawn i ni gael gêm gartref ar gyfer y rownd gyn-derfynol.
“Mae’n bosib, felly, ein bod ni ddwy fuddugoliaeth gartref i ffwrdd o dwrnament mawr arall i Gymru, sy’n gamp wych.”