Mae adroddiadau bod George North ar fin ymuno â chlwb rygbi Provence yn Ffrainc.

Bydd cytundeb yr asgellwr a chanolwr 31 oed gyda’r Gweilch yn dod i ben ar ddiwedd y tymor hwn, ac mae lle i gredu y byddai sefyllfa ariannol y rhanbarth yn ei gwneud hi’n anodd iddyn nhw ddal gafael ar y chwaraewr sydd wedi ennill 118 o gapiau dros ei wlad.

Y gred yw y bydd Provence, sy’n chwarae yn Ail Adran Ffrainc, yn cynnig cyflog dros £300,000 y flwyddyn iddo fe.

Bydd cyllideb rhanbarthau Cymru’n cael ei thorri o £5.2m i £4.5m y tymor nesaf, fydd yn eu gwneud nhw’n dimau llai apelgar i chwaraewyr newydd.

Mae’r prop Tomas Francis hefyd yn chwarae i’r clwb, sy’n drydydd yn y tabl ar hyn o bryd.