Mae Clwb Criced Morgannwg yn dweud bod “digon o ddiddordeb” wedi bod yn swydd y prif hyfforddwr.
Maen nhw’n chwilio am olynydd i Matthew Maynard, oedd wedi camu o’r neilltu ar ddiwedd y tymor diwethaf, ar ôl bod yn rhannu’r swydd gyda Mark Alleyne.
Maynard oedd yng ngofal y tîm yn y Bencampwriaeth, tra roedd Alleyne yn gyfrifol am y tîm yn y gemau ugain pelawd cyn trosglwyddo’r cyfrifoldeb am y gystadleuaeth ugain pelawd rai dyddiau’n ddiweddarach i David Harrison.
Ond yn wahanol i’r drefn flaenorol, fyddan nhw ddim yn hollti’r swydd eto, gydag un prif hyfforddwr yn gyfrifol am y tîm ar draws yr holl gystadlaethau.
Bu Alleyne yn arwain y tîm wedyn yn y gystadleuaeth 50 pelawd.
Ond yn dilyn adolygiad, dywedodd Morgannwg y bydden nhw’n dychwelyd i’r strwythur blaenorol.
Bydd Alleyne yn aros gyda’r clwb er mwyn gweithio gyda’r prif hyfforddwr newydd, wrth i’r tîm ddechrau ymarfer eto yr wythnos hon.
Y swydd
Mae’r hysbyseb ar wefan y clwb yn dweud bod y Prif Hyfforddwr yn atebol i’r Cyfarwyddwr Criced o ran perfformiadau, ac y bydd gofyn cydweithio â’r capten(iaid), rheolwyr a’r chwaraewyr.
Cytundeb tair blynedd fydd yn cael ei gynnig i’r ymgeisydd llwyddiannus, ac ymhlith y prif gyfrifoldebau mae dewis y tîm, gwneud argymhellion ynghylch cytundebau’r chwaraewyr, datblygu a monitro cynlluniau datblygu’r chwaraewyr, paratoi’r tîm i chwarae ar y cae ym mhob cystadleuaeth, ac arwain hyfforddiant y garfan.
Bydd y prif hyfforddwr hefyd yn gyfrifol am oruchwylio iechyd a ffitrwydd y chwaraewyr ar y cyd â’r adrannau perthnasol o fewn y clwb, yn ogystal â chefnogi’r capten o ran tactegau a’r gwrthwynebwyr.
Bydd elfennau masnachol, gweithrediadau, cyfleusterau, a diwylliant y clwb yn rhan o’r swydd hefyd.
Bydd gofyn i ddeilydd y swydd gyfrannu at “ddatblygu a chyflwyno polisïau i greu llwyddiant cynaliadwy”.
Bydd elfen o’r swydd hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu chwaraewyr drwy rengoedd a llwybrau’r clwb.
Mae Morgannwg yn dweud y byddan nhw’n ystyried ceisiadau o dramor hefyd.