Fydd Taine Plumtree ddim yn chwarae ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn y gwanwyn, ar ôl anafu ei ysgwydd.

Bydd yn rhaid i’r chwaraewr rheng ôl 23 oed gael llawdriniaeth ar ôl cael ei anafu’n chwarae i’r Scarlets yn erbyn y Lions yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig fis yma.

Mae disgwyl y bydd e allan am bedwar mis, ond mae’r Chwe Gwlad yn dechrau ar Chwefror 3, wrth i Gymru groesawu’r Alban i Gaerdydd.

Gyda’r twrnament yn dod i ben ganol mis Mawrth, fydd Plumtree ddim yn dychwelyd wedyn am rai wythnosau.

Mae Plumtree, mab cyn-hyfforddwr Abertawe John, wedi sgorio pedwar cais mewn pum gêm i’r Scarlets hyd yn hyn.

Mae’n gymwys i gynrychioli Cymru gan ei fod e’n enedigol o Abertawe, ac mae e eisoes wedi chwarae mewn sawl gêm baratoadol a’r gêm gystadleuol yn erbyn y Barbariaid hefyd.

Doedd e ddim ar gael ar gyfer Cwpan y Byd yn sgil anaf i’w ysgwydd.

Anafiadau

Mae’r anaf i Taine Plumtree yn ychwanegu at ben tost Warren Gatland.

Mae Cymru eisoes heb Christ Tshiunza, sydd wedi torri ei droed, a’r wythwr Taulupe Faletau sydd wedi torri ei fraich.