Mae adroddiadau bod Clwb Pêl-droed Crystal Palace yn awyddus i benodi’r Cymro Steve Cooper i olynu’r rheolwr Roy Hodgson.
Fe fu Cooper dan bwysau yn Nottingham Forest yn sgil canlyniadau’r tîm yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor hwn, er ei fod e wedi llofnodi estyniad i’w gytundeb tan 2025 yn ddiweddar.
Yn ôl adroddiadau, mae Palace yn “monitro” sefyllfa cyn-reolwr Abertawe wrth iddyn nhw ystyried terfynu cyflogaeth eu rheolwr 76 oed hwythau.
Fe fu amddiffyn Palace yn gwegian y tymor hwn, a byddai Cooper yn siŵr o gael ei ystyried yn rheolwr fyddai’n gallu datrys y sefyllfa honno, gyda’r clwb wedi bod yn dilyn ei hynt a’i helynt ers 2021 pan oedd e wrth y llyw yn Abertawe.
Bryd hynny, cafodd Patrick Vieira ei benodi cyn cael ei ddiswyddo’r tymor canlynol.
Fe wnaeth Cooper arwain Abertawe i’r gemau ail gyfle ddau dymor yn olynol cyn ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr gyda Nottingham Forest, ond mae e bellach dan bwysau yn sgil y golled o 3-2 yn erbyn Brighton yn ddiweddar.
Roedd adroddiadau ynghylch ei ddyfodol o fewn dim o dro pan gafodd ei benodi, ond mae e wedi llwyddo i wrthbrofi’r beirniaid hyd yn hyn.