Mae Michael Duff, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi cadarnhau mai cytundeb deufis mae’r asgellwr Yannick Bolasie wedi’i lofnodi gyda’r clwb.

Pan gafodd y trosglwyddiad ei gadarnhau gan y clwb, dywedon nhw fod y chwaraewr 34 oed wedi llofnodi “cytundeb tymor byr”.

Doedd ganddo fe ddim clwb ers cael ei ryddhau gan Caykur Rizespor yn Nhwrci ar ddiwedd y tymor diwethaf.

Mae disgwyl iddo fe fod ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Leeds nos Fercher (Tachwedd 29).

Gyrfa

Yn enedigol o Lyon yn Ffrainc, mae Yannick Bolasie wedi chwarae i glybiau Rushden & Diamonds, Hillingdon Borough, Floriana ym Melita, Plymouth Argyle, Barnet, Bristol City a Crystal Palace.

Roedd e’n allweddol wrth i Palace ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr a chyrraedd rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn 2016.

Sgoriodd e 13 gôl mewn 144 o gemau i Palace cyn symud i Everton, lle cafodd e sawl anaf hirdymor.

Treuliodd e gyfnodau ar fenthyg yn Aston Villa, Anderlecht, Sporting Lisbon a Middlesbrough hefyd.

Mae e wedi cynrychioli’r Congo hanner cant o weithiau.