Mae’n ddiwrnod prysur i’r tri Chymro sydd yn dal yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Snwcer y Deyrnas Unedig yng Nghaerefrog heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 29).

Bydd dau ohonyn nhw’n herio’i gilydd, sef Mark Williams o Went a Jamie Clarke o Lanelli, tra bydd Jamie Jones o Gastell-nedd yn wynebu Judd Trump.

Fe wnaeth Williams guro Fan Zhengyi o chwe ffrâm i bedair yn y rownd ddiwethaf, tra bod Clarke wedi trechu Kyren Wilson ar ôl bod ar ei hôl hi o bedair ffrâm.

Mae Williams a Clarke wedi herio’i gilydd dair gwaith yng nghystadlaethau’r detholion, gan gynnwys yr un gystadleuaeth y llynedd pan oedd Clarke yn fuddugol o chwe ffrâm i dair.

Cyrhaeddodd Jones y rownd hon ar ôl curo Jack Lisowski, ond mae’n wynebu cryn her wrth geisio curo Trump, sy’n un o chwaraewyr gorau’r gylchdaith eleni.

Dydy Jones erioed wedi curo Trump yn y fformat traddodiadol.