Mae Mark Williams drwodd i rownd wyth olaf Pencampwriaeth Snwcer y Deyrnas Unedig, tra bod Jamie Jones a Jamie Clarke allan o’r twrnament yng Nghaerefrog.

Fe wnaeth Jones golli’n drwm o chwe ffrâm i ddim yn erbyn Judd Trump, enillydd y gystadleuaeth yn 2011, tra bod Clarke wedi’i guro o chwe ffrâm i bedair gan ei gyd-Gymro Williams.

Dechreuodd Trump gyda rhediad dros gant yn y ffrâm agoriadol, gan arwain o bedair ffrâm i ddim ar yr egwyl ar ôl i Jones golli cyfle i unioni’r sgôr yn yr ail ffrâm.

Bydd Trump yn herio Mark Selby yn rownd yr wyth olaf ddydd Gwener (Rhagfyr 1).

Sgoriodd Williams dri rhediad dros gant wrth iddo fe daro’n ôl ar ôl bod ar ei hôl hi o ddwy ffrâm i ddim yn erbyn Clarke.

Bydd e’n herio Ding Junhui yn y rownd nesaf.