Mae aelod o’r wrthblaid yn y Senedd wedi arwain dadl am bwysigrwydd rygbi ar lawr gwlad yng Nghymru, yn sgil pryderon y gallai clybiau cymunedol orfod dod i ben oherwydd costau ynni cynyddol.
Dywed James Evans, sy’n cynrychioli Brycheiniog a Maesyfed, fod angerdd Cymru am y gamp yn fwyaf amlwg ar lawr gwlad.
Mae’r Ceidwadwr wedi chwarae i dîm Gwernyfed yn Nhalgarth er pan oedd e’n ifanc, ac mae’n dal i wisgo’r crys gwyrdd a du bron bob prynhawn Sadwrn.
“Rydyn ni’n lwcus iawn yma fod gennym ni glybiau, ysgolion a chymunedau di-ri sy’n meithrin cariad at y gamp yn ifanc iawn,” meddai James Evans, sydd â llygad ddu ar ôl bod yn chwarae dros yr wythnosau diwethaf.
“Y mentrau llawr gwlad hynny yw ocsigen rygbi yng Nghymru, gan feithrin doniau, sefydlu gwerthoedd a darparu synnwyr o berthyn sy’n ymestyn ymhell tu hwnt i’r cae rygbi.”
Iechyd meddwl
Dywed y cyn-gynghorydd fod clybiau lleol wedi rhoi rhai o’u sêr disgleiriaf i’r tîm cenedlaethol yn barhaus, megis Mark Jones, Dan Lydiate a’r capten Jac Morgan.
Fe wnaeth James Evans hefyd bwysleisio manteision iechyd meddwl a chorfforol chwarae rygbi.
“Dw i’n gwybod o’m profiad personol fod fy iechyd meddwl yn cael hwb o chwarae i fy nghlwb lleol,” meddai.
“Mae’n creu’r ymdeimlad yna o berthyn, cyfeillgarwch, ac mae manteision iechyd corfforol hefyd.”
Tynnodd y llefarydd iechyd sylw at ymgyrchoedd yn codi ymwybyddiaeth o rai cyflyrau iechyd, megis canser y ceilliau a chlefyd niwronau motor, drwy’r gamp.
Fe wnaeth y Ceidwadwyr hefyd grybwyll yr heriau mae timau llawr gwlad yn eu hwynebu, gydag adnoddau prin yn nhermau arian ac is-adeiledd yn achosi rhwystrau.
Amrywiaeth
Tynnodd James Evans sylw at gynhwysiant ac amrywiaeth cynyddol yn y gamp, gyda nifer o glybiau’n brolio timau menywod a phobol ag anableddau.
Fe wnaeth ei gydweithiwr Samuel Kurtz ganolbwyntio ar rôl amhrisiadwy busnesau lleol sy’n aml yn noddi clybiau, yn ogystal â staff cynorthwyol, rhieni a chefnogwyr.
Fe wnaeth yr Aelod Senedd gymeradwyo’r Pembrokeshire Vikings, tîm gallu cymysg, sy’n cynnwys pobol ag anableddau, oedd wedi ennill rownd derfynol yn Stadiwm Principality dros yr wythnosau diwethaf.
Fe wnaeth Tom Giffard ganmol twf aruthrol rygbi i fenywod a merched.
“Fe wnaeth yr ystadegyn hwn chwalu fy mhen: yn 2015, roedd 170 o fenywod a merched yn cymryd rhan mewn rygbi. Erbyn 2018, roedd yna 10,000,” meddai.
Dywedodd y Ceidwadwr fod ei bartner Abigail newydd ddechrau chwarae i’r Porthcawl SheGulls.
Chwaraeodd Luke Fletcher, cyd-Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, i glybiau Tondu a Phen-coed wrth dyfu i fyny, ac mae’r clybiau hynny wedi cynhyrchu chwaraewyr rhyngwladol i Gymru.
“Yn amlwg, wnes i ddim ei gwneud hi!” meddai.
“Gall James Evans a Sam Kurtz ddweud wrthoch chi pam ar ôl gweld fy mherfformiad ar y cae i dîm rygbi’r Senedd!”
Tynnodd gwleidydd Plaid Cymru sylw at y ffaith nad yw llawer o glybiau’n berchen ar eu caeau na’u hadeiladau eu hunain, ac fe wnaeth e annog Llywodraeth Cymru i helpu i sicrhau dyfodol rygbi ar lawr gwlad.
Cefnogaeth
Fe wnaeth Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Chwaraeon, dynnu sylw at rywfaint o’r gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer rygbi ar lawr gwlad.
Dywedodd fod clybiau rygbi Llanfair-ym-Muallt a Threfyclo yn etholaeth James Evans wedi elwa o gael mwy na £112,000 allan o gronfa Chwaraeon Cymru sy’n werth £8m y flwyddyn.
Tynnodd y Dirprwy Weinidog sylw at raglen Dysgu Undeb Rygbi Cymru, adnodd ar-lein rhad ac am ddim sy’n anelu i helpu rygbi cymunedol i ffynnu.
Dywedodd fod nifer o glybiau rygbi’n rhan o rwydwaith canolfannau cynnes Llywodraeth Cymru, sy’n anelu i leddfu effeithiau tlodi tanwydd yn sgil prisiau ynni sydd wedi cyrraedd eu lefelau uchaf.
Ychwanegodd fod Chwaraeon Cymru, fydd yn derbyn £1m ychwanegol dros ddwy flynedd, wedi gwneud grantiau o £25,000 ar gael i helpu clybiau i dalu costau ynni neu i gael uwchraddio, gan gynnwys paneli solar.
“Mae’r bygythiad y gallai clybiau ar lawr gwlad ddod i ben yn bryder sylweddol, felly rydyn ni’n monitro’r sefyllfa’n agos,” meddai.