Mae Bardd Plant Cymru a disgyblion ym Mhontyberem yn Sir Gaerfyrddin yn galw ar Gymdeithas Bêl-droed Cymru i gefnogi eu hymgyrch i sicrhau bod gêm gyfrifiadurol boblogaidd ar gael yn y Gymraeg.
Mae’r gêm FC (FIFA gynt) gan y cwmni EA Sports ar gael i’w chwarae mewn mwy na hanner cant o wledydd a deunaw o ieithoedd, ond dydy’r Gymraeg ddim yn un ohonyn nhw, ac mae’r ymgyrch yn anelu at newid hynny.
Mae mwy na 325m o gopïau o’r gêm wedi’u gwerthu ar draws y byd.
Bydd y disgyblion a Casi Wyn yn dod ynghyd ar noson gêm menywod Cymru yn erbyn yr Almaen yn Stadiwm Swansea.com yn Abertawe i alw am gefnogaeth i’w hymgyrch.
Iaith addysg, neu iaith chwarae a hwyl?
Yn ystod gweithdy ddechrau’r flwyddyn, fe ddaeth i’r amlwg fod y disgyblion yn teimlo mai iaith dysg yn unig yw’r Gymraeg, ac nad yw’n iaith chwarae nac yn iaith hwyl.
Yn ystod cyfnodau clo Covid-19, roedd eu cyfnodau o chwarae a chymdeithasu wedi symud i’r byd digidol, ac roedd y criw yn teimlo nad oedd cyfleoedd digonol i ddefnyddio’r Gymraeg dros y we ac wrth chwarae gemau fideo.
Gan mai gêm FC oedd y fwyaf poblogaidd yn eu mysg, dan arweiniad Casi Wyn fe aeth y disgyblion ati i lunio cyfres o lythyrau arbennig yn erfyn ar EA Sports i ychwanegu’r Gymraeg fel iaith ar y gêm.
Mae’r llythyr yn pwysleisio’r ffaith fod Erthygl 30 yn nogfen Hawliau Plant Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (yr UNCRC) yn nodi bod gan bob plentyn yr hawl i ddefnyddio’u hiaith eu hunain, ac maen nhw’n credu bod hwyl a chymdeithasu yn rhan elfennol o hyn.
“Roedd y disgyblion wedi cael eu hysbrydoli gan Casi Wyn i gynhyrchu llythyr sydd yn gofyn am gymorth i blant Cymru ac ieithoedd lleiafrifol eraill gael y cyfle i chwarae gemau cyfrifiadurol yn eu hiaith eu hunain,” meddai eu hathrawes Cath Price.
“Roedd yn anrhydedd cael rhannu llythyr y dosbarth yn Senedd ym mis Gorffennaf eleni, ac edrychwn ymlaen at gael ei ddatgan o flaen swyddogion FA Cymru.”
Cefnogaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Mewn digwyddiad arbennig yn y Senedd ym mis Gorffennaf, adroddodd y disgyblion y llythyr gerbron Aelodau a chynrychiolwyr o sefydliadau cenedlaethol.
Daeth y llythyr at sylw’r Gymdeithas Bêl-droed, a chafodd y disgyblion wahoddiad i’w gyflwyno ger eu bron, a byddan nhw’n gwneud hynny ar noson gêm Cymru.
Gobeithia’r disgyblion y bydd y Gymdeithas Bêl-droed yn gallu cynnig arweiniad a chefnogaeth i helpu i sicrhau bod y neges yn cyrraedd EA Sports.
“Mae’r iaith Gymraeg wrth galon ein holl weithgaredd yn FAW gan ein bod yn deall ei bwysigrwydd i’n diwylliant a’n hunaniaeth fel cenedl,” meddai Ian Gwyn Hughes ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
“Rydym yn edrych ymlaen at glywed gan ddisgyblion Ysgol Pontyberem a dysgu mwy am eu hymgyrch.
“Rwy’n sicr y byddwn yn cael ein hysbrydoli gan eu cyflawniad, ac y gwnawn bopeth posib i’w cefnogi a sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed.”
Bardd Plant Cymru
Mae Bardd Plant Cymru yn rôl genedlaethol gaiff ei dyfarnu i fardd Cymraeg bob dwy flynedd, a Casi Wyn oedd yn y rôl rhwng 2021-2023.
Nod y rôl yw ysbrydoli a thanio dychymyg plant ar draws Cymru trwy weithdai a phrosiectau barddoniaeth amrywiol, a thrwy greadigrwydd.
Rhan allweddol o’r gwaith yw gwrando ar yr hyn sydd yn bwysig i blant a phobol ifanc Cymru heddiw, gan gynnig ffordd amgen iddyn nhw fynegi eu lleisiau, ac eirioli drostyn nhw.
“Nod cynllun Bardd Plant Cymru yw grymuso plant a phobol ifanc a rhoi’r hyder iddyn nhw ddefnyddio’u lleisiau – mae’n wych gweld hynny’n talu ffrwyth wrth i blant Ysgol Pontyberem alw am newid,” meddai Claire Furlong, Cyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru, sy’n cydlynu Bardd Plant Cymru.
“Rydym yn hynod gyffrous o gyd-weithio â’r FAW i sicrhau fod y disgyblion yn cael rhannu eu hymgyrch â’r byd, ac yn edrych ymlaen at weld yr ymgyrch yn datblygu.
“Caiff y cynllun ei redeg gan Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.”