Mae tîm pêl-droed merched Cymru wedi gostwng o Gynghrair A Cynghrair y Cenhedloedd,

Daw hyn ar ôl iddyn nhw golli o 2-1 yn erbyn Gwlad yr Iâ yng Nghaerdydd.

Roedden nhw ar y droed flaen yn yr hanner cyntaf, ond doedd hi ddim am fod i dîm Gemma Grainger.

Daeth y gôl agoriadol yn erbyn llif, wrth i Gymru fethu â chlirio’r bêl, a manteisiodd Saedis Heidarsdottir ar y camgymeriad i groesi’r bêl, gafodd ei gwyro i’r rhwyd oddi ar Hayley Ladd, ond Hildur Antonsdottir gafodd y cyffyrddiad olaf.

Daeth yr ail gôl yn yr ail hanner, wrth i’r eilydd Dilja Zomers gasglu’r bêl ar y chwith ac ergydio â’i throed dde i gornel y rhwyd heibio Olivia Clark.

Bu’n rhaid i Gymru fodloni ar gôl gysur hwyr, wrth i Wlad yr Iâ fethu â chlirio’r bêl oddi ar gic gornel.

Croesodd Lily Woodham i lwybr Elise Hughes, a honno’n ei tharo hi â’i phen i’r gôl.

Bydd ymgyrch Cymru’n gorffen yn erbyn yr Almaen yn Abertawe ar Ragfyr 5.