Bydd y gwaith o godi eisteddle dros dro ar y STōK Cae Ras yn dechrau yr wythnos hon.

Bydd lle i 2,289 o bobol yn eisteddle newydd y Kop, gyda lle i ugain yn rhagor o gadeiriau olwyn.

Y gobaith yw y bydd yr eisteddle newydd yn barod erbyn y gêm yn erbyn Casnewydd ar Ragfyr 23, ac ar gyfer pob gêm wedi hynny hefyd.

Eisteddle ar gyfer cefnogwyr Wrecsam yn unig fydd hi, ac mae nifer o geisiadau am ganiatâd a thrwyddedau wedi’u cyflwyno wrth i’r gwaith adeiladu fynd rhagddo.

Mae’r clwb wedi diolch i Brifysgol Wrecsam a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth gyda’r gwaith, ynghyd â Chyngor Wrecsam.

‘Cynnydd da’

“Rydyn ni’n gwneud cynnydd da wrth ddatrys y materion sydd ar y gweill cyn i Ddatblygiad y Kop allu cychwyn, ond gydag o leiaf dri mis o gyfnod cyn bod modd dechrau’r gwaith ar y safle, gallwn osod eisteddle dros dro nawr heb gael effaith ar y rhaglen adeiladu ar gyfer y Kop,” meddai llefarydd ar ran Clwb Pêl-droed Wrecsam.

“Bydd cost yr eisteddle dros dro’n fwy nag sy’n cael ei gynhyrchu drwy docynnau, ond roedd y Bwrdd yn teimlo mai’r flaenoriaeth oedd galluogi mwy o gefnogwyr i wylio’r tîm yn fyw, a mynd i’r afael â’r rhwystredigaeth sydd gan rai nad ydyn nhw’n gallu cael tocynnau ar gyfer gemau.”

Bydd tocynnau ar gyfer yr eisteddle dros dro’n £20 i oedolion, £15 i’r rhai dros 65 ac o dan 21 oed, £9 ar gyfer y rhai dan 18 oed, a £6 ar gyfer plant dan 11 oed.

Bydd tocynnau ar gael i aelodau yn y lle cyntaf, ac wedyn i’r cyhoedd yn ehangach, ac mae’r clwb yn dweud bod y prisiau’n adlewyrchu’r ffaith nad oes to dros yr eisteddle dros dro.