Bydd Mark Williams yn wynebu Ali Carter yn rownd gynta’r Meistri Snwcer.

Bydd y twrnament yn cael ei gynnal yn yr Alexandra Palace yn Llundain rhwng Ionawr 7-14, a dim ond 16 chwaraewr gorau’r byd sy’n cystadlu.

Roedd yn rhaid aros tan ar ôl rownd derfynol Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig rhwng Ronnie O’Sullivan a Ding Junhui er mwyn i’r Cymro wybod pwy fyddai’n ei wynebu.

Collodd y chwaraewr llaw chwith profiadol o Went o 10-8 yn erbyn Judd Trump yn rownd derfynol y Meistri y llynedd.

Bydd Trump yn herio Kyren Wilson, tra bydd O’Sullivan yn herio Ding unwaith eto, gyda’r chwaraewr o Tsieina yn gobeithio talu’r pwyth yn ôl ar ôl neithiwr (nos Sul, Rhagfyr 3).

Bydd Luca Brecel yn herio Jack Lisowski, tra bydd Zhang Anda yn wynebu Shaun Murphy, enillydd y Meistri yn 2015.