Mae’r Cymro Toby Radford wedi’i benodi’n hyfforddwr batio Clwb Criced Caint.

Roedd Radford, sy’n hanu o Gaerffili, yn brif hyfforddwr Morgannwg yn 2014 a 2015.

Mae e hefyd wedi gweithio i Middlesex, ac i India’r Gorllewin gan hyfforddi’r batwyr rhyngwladol wrth iddyn nhw ennill Cwpan T20 y Byd, ac wrth iddyn nhw guro Lloegr mewn cyfres brawf yn 2019.

Bu’n allweddol wrth sefydlu Canolfan Ragoriaeth India’r Gorllewin ac Academi Middlesex, ac fe fu’n gweithio am gyfnod gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) fel hyfforddwr batio arbenigol, ac mewn nifer o wledydd eraill hefyd.

Yn ystod ei yrfa ar y cae, bu’n chwarae i Sussex a Middlesex yn y 1990au.

Logo Golwg360

Cymro i hyfforddi cricedwyr rhyngwladol y dyfodol yn Iwerddon

Toby Radford wedi’i benodi’n Rheolwr Academi a Pherfformio Criced Iwerddon
Logo Golwg360

Prif hyfforddwr wedi gadael Clwb Criced Morgannwg

Toby Radford wedi bod wrth y llyw ers dau dymor