Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cyhoeddi bod eu prif hyfforddwr, Toby Radford wedi gadael ei swydd ar ôl dau dymor wrth y llyw.

Roedd ganddo flwyddyn yn weddill o’i gytundeb presennol.

Y tymor diwethaf, arweiniodd Radford y sir i bedair buddugoliaeth o’r bron yn y Bencampwriaeth – eu perfformiad gorau erioed yn y gystadleuaeth.

Gorffennodd Morgannwg yn bedwerydd yn ail adran y Bencampwriaeth y tymor diwethaf, eu safle gorau yn y gystadleuaeth ers degawd.

Mewn datganiad, dywedodd Radford: “Rwy’n amlwg yn falch fod y tîm wedi dangos gwelliant sylweddol yn ystod y ddau dymor diwethaf ac wedi bod yn gystadleuol dros ben ym mhob fformat ac ym mhob cystadleuaeth.

“Mae’n siom i fi na alla i ddilyn y gwaith trwodd hyd y diwedd ond rwy’n hyderus bod y criw o ddoniau cartref fel David Lloyd, Aneurin Donald ac Andrew Salter – pob un ohonyn nhw’n ymddangos yn gyson yn y tîm cartref – yn rhoi optimistiaeth anferth i’r clwb ar gyfer y tymor nawr ac yn y tymor hir.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi wrth symud y clwb ymlaen. Gyda’n gilydd, fe gymeron ni gamau breision.”

Mae ESPN Cricinfo wedi awgrymu bod a wnelo ymadawiad Radford â bwriad y sir i ail-strwythuro’u hyfforddwr, gyda nifer eisoes yn galw am benodi’r is-hyfforddwr Robert Croft yn olynydd i Radford.

Roedd Croft ymhlith y ffefrynnau ar gyfer y swydd pan gafodd Radford ei benodi.

Does dim sôn eto a fydd y Prif Weithredwr Hugh Morris yn parhau yn ei swydd yntau fel Cyfarwyddwr Criced y sir.

Dywedodd Morris mewn datganiad: “Ar ran y clwb, hoffwn ddiolch i Toby am y cyfraniad y mae e wedi’i wneud fel Prif Hyfforddwr yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.

“Mae ei waith caled a’i ymrwymiad i’r swydd wedi bod yn amlwg i bawb ac o dan ei arweiniad, rydyn ni wedi cymryd cam pwysig ymlaen yn y Bencampwriaeth.

“Mae’r gwaith hyfforddi y mae Toby wedi’i wneud gyda’r batwyr ifainc wedi bod yn arbennig o bwysig ac rwy’n credu y bydd y chwaraewyr a’r clwb yn cael budd o’r gwaith hwn am flynyddoedd i ddod.

“Mae e’n gadael y clwb gyda’n dymuniadau gorau ni ar gyfer y cam nesaf yn ei yrfa fel hyfforddwr.”

Mae disgwyl i Radford ddychwelyd i’r byd hyfforddi fel hyfforddwr batio, y swydd a wnaeth gydag India’r Gorllewin a Bwrdd Criced Cymru a Lloegr yn Loughborough.

Bydd Robert Croft yn arwain y sir yn ystod eu paratoadau ar gyfer y tymor newydd.